Cytundeb Cyflawni (Drafft) Mawrth 2023
Atodiad 6: Rhestr Termau
Adneuo |
Cam ffurfiol o chwe wythnos lle gall unigolion a sefydliadau gyflwyno sylwadau ar y CDLl Newydd. Yna gall Arolygydd archwilio sylwadau sy'n ymwneud ag a yw'r cynllun yn 'gadarn'. |
Adroddiad Adolygu |
Mae'r Adroddiad Adolygu yn rhoi trosolwg o'r materion a ystyriwyd fel rhan o'r broses adolygu lawn ac yn nodi newidiadau y mae'n debygol y bydd eu hangen i'r CDLl Newydd, yn seiliedig ar dystiolaeth. Mae hefyd yn nodi'r math o weithdrefn adolygu i'w dilyn wrth adolygu'r CDLl. |
Adroddiad Arfarniad o Gynaliadwyedd (SAR) |
Dogfen y mae'n ofynnol ei chynhyrchu fel rhan o'r broses Arfarniad o Gynaliadwyedd i ddisgrifio ac arfarnu'r effeithiau sylweddol tebygol ar gynaliadwyedd o weithredu CDLl, sy'n bodloni gofynion yr Adroddiad Amgylcheddol o dan y Gyfarwyddeb AAS. Mae Adran 62(6) o'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i bob ACLl baratoi adroddiad ar ganfyddiadau SA y CDLl. Mae'n rhan annatod o'r broses o lunio cynllun datblygu. |
Adroddiad Monitro Blynyddol (AMR) |
Adroddiad blynyddol i fonitro effeithiolrwydd y CDLl Newydd ac yn y pen draw mae'n penderfynu a oes angen unrhyw ddiwygiadau i'r Cynllun. Mae'n asesu i ba raddau y mae strategaeth ac amcanion y CDLl Newydd yn cael eu cyflawni ac a yw polisïau'r CDLl Newydd yn gweithredu'n effeithiol. |
Adroddiad Ymgynghori |
Mae Adroddiad Ymgynghori yn un o'r dogfennau y mae angen eu cyflwyno i'w harchwilio'n annibynnol. Mae hefyd angen adroddiad ymgynghori cychwynnol ar gyfer y cam cyn-adneuo. |
Adroddiad yr Arolygydd |
Yr Adroddiad a baratowyd gan Arolygydd annibynnol sy'n archwilio'r CDLl Newydd. Mae Adroddiad yr Arolygydd yn cynnwys argymhellion ar gynnwys y CDLl Newydd terfynol ac mae'n rhwymo'r Cyngor. Mae'n rhaid i'r Cyngor fabwysiadu'r CDLl Newydd yn y modd a gyfarwyddir gan yr Arolygydd. |
Amcan |
Datganiad o'r hyn a fwriedir, gan nodi'r cyfeiriad a ddymunir ar gyfer newid tueddiadau. |
Amserlen |
Yn nodi'r dyddiadau erbyn pryd y disgwylir cwblhau camau a phrosesau allweddol paratoi'r CDLl Newydd. Mae'r rhain yn ddiffiniol ar gyfer camau hyd at adneuo'r CDLl Newydd ac yn ddangosol ar gyfer y camau sy'n weddill ar ôl hynny. |
Archwiliad |
Mae'r archwiliad yn cynnwys archwiliad cyhoeddus o'r CDLl Adneuo Newydd, y sylwadau Adneuo a wnaed, yr adroddiad ymgynghori, y sail dystiolaeth/dogfennau cefndir a'r Adroddiad Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig. Gwneir hyn gan yr Arolygiaeth Gynllunio ar ran Llywodraeth Cymru. |
Arfarniad o Gynaliadwyedd (ISA) |
Offeryn ar gyfer arfarnu polisïau, gan gynnwys CDLlau, i sicrhau eu bod yn adlewyrchu amcanion datblygu cynaliadwy (h.y. ffactorau cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd). Mae Adran 62(6) o'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i bob ACLl gynnal SA o'u Cynllun Datblygu Lleol. Mae'r math hwn o arfarniad cynaliadwyedd yn ymgorffori'n llawn ofynion y Gyfarwyddeb Asesiad Amgylcheddol Strategol. |
Asesiad Amgylcheddol Strategol (AAS) |
Term generig a ddefnyddir yn rhyngwladol i ddisgrifio asesiad amgylcheddol fel y'i cymhwysir i bolisïau, cynlluniau a rhaglenni. Mae Cyfarwyddeb Asesiad Amgylcheddol Strategol Ewropeaidd (2001/42/EC) yn gofyn am "asesiad amgylcheddol o rai cynlluniau a rhaglenni, gan gynnwys y rhai ym maes cynllunio a defnydd tir". |
Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (HRA) |
Mae Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (HRA) yn ymwneud ag asesiad o effeithiau cynllun (neu brosiect) yn erbyn amcanion cadwraeth natur safleoedd dynodedig Ewropeaidd ar gyfer unrhyw effeithiau sylweddol tebygol. Mae HRA hefyd yn canfod a fyddai'r cynllun arfaethedig yn effeithio'n andwyol ar gyfanrwydd y safle. |
Awdurdod Cynllunio Lleol (ACLl) |
Yn achos Abertawe, Cyngor Dinas a Sir Abertawe yw hwn. |
Blaenlwytho |
Cynnwys y gymuned a meithrin consensws ar gamau cynnar paratoi'r cynllun |
Canllawiau Cynllunio Atodol (SPG) |
Darparu arweiniad manylach neu safle-benodol ar gymhwyso Polisïau'r CDLl Newydd. Maent yn darparu gwybodaeth atodol mewn perthynas â'r polisïau mewn CDLl. Nid yw SPG yn rhan o'r CDLl Newydd ac nid yw'n destun archwiliad annibynnol. |
Cwmpasu |
Y broses o benderfynu ar gwmpas a lefel y manylder ar gyfer gwerthusiad integredig o gynaliadwyedd (SA), gan gynnwys yr effeithiau cynaliadwyedd a'r opsiynau y mae angen eu hystyried, y dulliau asesu i'w defnyddio a strwythur a chynnwys yr Adroddiad SA. |
Cyflwyno |
Pan fydd y CDLl Newydd, ISAR a'r HRA yn cael eu cyflwyno'n ffurfiol i Lywodraeth Cymru i'w harchwilio'n annibynnol gan Arolygydd a benodwyd gan Lywodraeth Cymru. |
Cyfranogiad |
Proses yn hytrach nag un digwyddiad sy'n rhoi cyfle i ymgysylltu'n uniongyrchol â'r gymuned a rhanddeiliaid i gyfrannu at y broses o wneud penderfyniadau. |
Cyngor |
Cyngor Dinas a Sir Abertawe. |
Cyngor Dinas a Sir Abertawe (CCS) |
Dyma enw'r Awdurdod Cynllunio Lleol sy'n paratoi'r CDLl Newydd. |
Cymuned |
Pobl sy'n byw mewn ardal ddaearyddol ddiffiniedig, neu sy'n rhannu diddordebau eraill ac felly'n ffurfio cymunedau buddiant. |
Cyn-adneuo |
Camau paratoi ac ymgynghori ar y CDLl Newydd cyn i'r Cynllun Adneuo gael ei gwblhau a'i gymeradwyo gan y Cyngor. |
Cynllun Adneuo |
Dyma ddrafft llawn o'r CDLl Newydd sy'n mynd trwy gyfnod ymgynghori ffurfiol cyn iddo gael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru i'w archwilio'n gyhoeddus. |
Cynllun Cynnwys Cymunedau (CIS) |
Mae'r Cynllun Cynnwys Cymunedau yn rhan o'r Cytundeb Cyflawni. Mae'n amlinellu'r egwyddorion ymgysylltu ac yn rhoi manylion am sut y bydd yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn cynnwys cymunedau a rhanddeiliaid (gan gynnwys busnesau a datblygwyr) wrth baratoi'r Cynllun Datblygu Lleol. |
Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) |
Cynllun defnydd tir sy'n cynnwys gweledigaeth, strategaeth, polisïau ardal gyfan ar gyfer mathau o ddatblygiadau, dyraniadau tir, a pholisïau a chynigion ar gyfer meysydd allweddol o newid a gwarchodaeth. Dangosir dyraniadau a rhai polisïau yn ddaearyddol ar y Map Cynigion sy'n rhan o'r Cynllun. Mae'r CDLl yn gynllun datblygu statudol y mae'n ofynnol i bob ardal awdurdod cynllunio lleol ei gynhyrchu yng Nghymru. |
Cynllun Datblygu Strategol (SDP) |
Offeryn ar gyfer cynllunio rhanbarthol yw Cynllun Datblygu Strategol i ymdrin â materion trawsffiniol megis tai a thrafnidiaeth. Bydd yn cael ei baratoi gan Banel Cynllunio Strategol ar draws rhanbarth. Mae'n rhaid i ACLlau ystyried y SDP wrth ddatblygu eu CDLlau. |
Cynllun Mabwysiedig |
Fersiwn derfynol y CDLl Newydd. |
Cynnwys |
Term generig yn ymwneud ag ymglymiad cymunedol sy'n cynnwys cyfranogiad a thechnegau ymgynghori. |
Cytundeb Cyflawni (CC) |
Dogfen yn cynnwys amserlen yr awdurdod cynllunio lleol ar gyfer paratoi Cynllun Datblygu Lleol, ynghyd â'i Gynllun Cynnwys Cymunedau, a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru i'w chytuno. |
Dangosydd |
Mesur o newidynnau dros amser, a ddefnyddir yn aml i fesur cynnydd wrth gyflawni amcanion, targedau a pholisïau. |
Datganiadau i'r Wasg |
Anfonir i'r cyfryngau Cymreig, gan gynnwys papurau newydd, gorsafoedd newyddion radio a theledu fel y bo'n briodol. Gall y cyfryngau ddewis peidio ag argraffu na darlledu eitem. |
Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 |
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ddeddfwriaeth sy'n ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus, megis awdurdodau lleol, roi cynaliadwyedd hirdymor ar flaen eu meddwl er mwyn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl yng Nghymru. Mae'n rhaid i awdurdodau lleol weithio tuag at y saith nod llesiant a gweithredu'r pum ffordd o weithio a nodir yn y Ddeddf. |
Fframwaith Datblygu Cenedlaethol (FfDC) |
Bydd y FfDC yn nodi fframwaith defnydd tir 20 mlynedd i Gymru a bydd yn disodli Cynllun Gofodol presennol Cymru. Mae Cyfarwyddiaeth Gynllunio Llywodraeth Cymru wedi dechrau gweithio ar y FfDC. |
Gweithdy |
Lle mae'r cyhoedd yn cael cyfle i gymryd rhan mewn dadleuon grŵp ac ymarferion ymarferol gydag 'allbwn' ysgrifenedig neu luniadol. |
Gwnaed yn briodol |
Sylwadau ynghych y cynllun datblygu a wneir yn y modd cywir ac o fewn y cyfnod ymgynghori penodedig. |
Llinell sylfaen |
Disgrifiad o gyflwr presennol ardal. |
Mabwysiadu |
Cam olaf paratoi'r Cynllun Datblygu Lleol lle daw'r CDLl Newydd yn gynllun datblygu statudol ar gyfer yr ardal y mae'n ei chwmpasu. |
Meithrin Consensws |
Proses o ddeialog gyda'r gymuned a phartïon eraill â diddordeb i ddeall safbwyntiau perthnasol ac i geisio cytundeb lle bo modd. |
Partïon â Diddordeb |
Unrhyw berson, grŵp, sefydliad neu gwmni sydd am fod yn rhan o baratoi'r CDLl Newydd. |
Partneriaid |
Adrannau awdurdodau lleol eraill a chyrff statudol lle bydd y CDLl Newydd yn helpu i gyflawni rhai o amcanion eu strategaethau. Gellir disgwyl i bartneriaid gyfrannu at lunio rhannau perthnasol o'r Cynllun. |
Penderfyniodau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru |
Gorff annibynnol a fydd yn gyfrifol am archwilio'r CDLl Newydd yn ffurfiol |
Polisi Cynllunio Cymru (PPW) |
Mae canllawiau polisi cynllunio ar gyfer Cymru a gynhyrchwyd gan Lywodraeth Cymru wedi'u nodi yn y ddogfen hon |
Profion Cadernid |
Er mwyn mabwysiadu CDLl Newydd, mae'n rhaid i'r Arolygydd Cynllunio benderfynu ei fod yn 'gadarn'. Mae'r Profion Cadernid wedi'u nodi yn y Llawlyfr Cynlluniau Datblygu (Argraffiad 3, Mawrth 2020). Mae tri phrawf i wneud y dyfarniad hwnnw mewn perthynas â'r cynllun yn ei gyfanrwydd. Mae fframwaith ar gyfer asesu cadernid CDLlau wedi'i ddatblygu gan yr Arolygiaeth Gynllunio. |
Rhanddeiliaid |
Pobl y mae CDLl Newydd (a/neu Arfarniad o Gynaliadwyedd Integredig/Asesiad Amgylcheddol Strategol) yn effeithio'n uniongyrchol ar eu buddiannau ac y mae eu cyfranogiad fel rheol yn digwydd trwy gyrff cynrychioliadol. |
Rheoleiddio |
Mae'r Rheoliadau wedi'u nodi yn Offerynnau Statudol Cymru. Maent yn darparu'r fframwaith ar gyfer paratoi'r CDLl Newydd. |
Safle Ymgeisiol |
Safle a enwebir gan unigolyn sydd â diddordeb mewn tir (h.y. tirfeddiannwr, datblygwr, asiant neu aelod o'r cyhoedd) i'w ystyried ar gyfer ei gynnwys yn y CDLl. Bydd pob Safle Ymgeisiol yn cael ei asesu i weld a yw'n addas i'w gynnwys fel dyraniadau posibl. |
Sail Dystiolaeth |
Gwybodaeth a data sy'n darparu'r sail ar gyfer paratoi gweledigaeth, amcanion, polisïau a chynigion y CDLl Newydd ac sy'n cyfiawnhau cadernid dull polisi'r CDLl. |
Strategaeth a Ffefrir |
Mae hon yn nodi'r cyfeiriad strategol bras ar gyfer y CDLl Newydd. Mae hyn yn cynnwys y lefel twf a ffafrir ynghyd â'r strategaeth ofodol ar gyfer dosbarthu'r twf. Mae hefyd yn cynnwys gweledigaeth, materion ac amcanion y Cynllun. |
Sylwadau |
Sylwadau a dderbyniwyd mewn perthynas â'r CDLl Newydd, naill ai o blaid neu yn erbyn. |
Ymgynghori |
Proses ffurfiol lle gwahoddir sylwadau ar bwnc penodol neu ddogfen ddrafft fel arfer o fewn cyfnod penodol o amser. |
Ymgysylltu |
Proses ragweithiol sy'n ceisio annog cyfranogiad y gymuned a grwpiau eraill yn y broses gwneud penderfyniadau. |