Ffurflen Cyflwyno Safle Ymgeisiol Cynllun Datblygu Lleol Newydd Abertawe 2023-2038

Daeth i ben ar 31 Hydref 2023
Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.

Safle Ymgeisiol

Galwad am Safleoedd Ymgeisiol – Mae pythefnos ar ôl o’r cyfnod Galwad am Safleoedd Ymgeisiol ar gyfer y CDLlN. Gallwch gyflwyno safleoedd tan 31 Hydref 2023.

Mae’r Cyngor yn gwahodd cynigwyr i gyflwyno ‘Safleoedd Ymgeisiol’ ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol Newydd Abertawe (CDLl Newydd). Mae’r rhain yn safleoedd a gaiff eu cynnig gan unrhyw barti â buddiant i’w cynnwys o bosibl fel dyraniad o fewn y Cynllun.

Gellir gwneud cyflwyniadau yn ystod yr ymarfer ‘Galwad am Safleoedd’, a gynhelir rhwng 30 Awst 2023 a 31 Hydref 2023. Oherwydd yr amserlenni angenrheidiol ar gyfer paratoi’r CDLl Newydd, bydd safleoedd a gyflwynir y tu allan i’r dyddiadau hyn yn cael eu hystyried yn ôl disgresiwn y Cyngor yn unig.

Os oes angen cymorth arnoch i lenwi’r ffurflen, cysylltwch â’r tîm drwy e-bost: cdll@abertawe.gov.uk neu ffoniwch 07814 105625.

Mae’n bwysig bod cyflwynwyr Safleoedd Ymgeisiol yn nodi ac yn deall y canlynol:

  • Wrth gyflwyno Safle Ymgeisiol i’r Cyngor, nid yw hyn yn gwarantu y caiff y safle ei ddyrannu yn y CDLl Newydd.
  • Rhaid cyflwyno ffurflen ar wahân ar gyfer pob Safle Ymgeisiol unigol a gynigir.
  • Rhaid i gyflwyniadau safleoedd gynnwys cynllun lleoliad yn seiliedig ar yr Arolwg Ordnans sy’n cynnwys y wybodaeth a nodir yn y ffurflen.
  • -Bydd y fethodoleg asesu safleoedd a nodir yn y nodyn cyfarwyddyd cysylltiedig yn sgorio’r safleoedd yn erbyn y wybodaeth a ddarperir yn y cwestiynau. Mae’r cwestiynau sydd wedi’u marcio â seren yn dynodi y byddant yn rhan o Gam 1 Sifftio Cychwynnol / Cam 2 Asesu, fel y bo’n briodol. Felly, mae’n bwysig bod y ffurflen yn cael ei llenwi ac y rhoddir ateb i bob cwestiwn yn llawn er mwyn galluogi asesiad priodol o’ch safle.
  • Gall unrhyw wybodaeth atodol neu ategol a gyflwynir gan gynigydd y safle fod ar gael i’r cyhoedd gan y Cyngor, oni bai bod y Cyngor yn derbyn cais ffurfiol yn ysgrifenedig a bod y partïon yn dod i gytundeb i atal cyhoeddi’r deunydd (er enghraifft oherwydd rhesymau cyfrinachedd masnachol).
  • Bydd y Cyngor, ar gam priodol ym mhroses y CDLl Newydd, yn cyhoeddi Cofrestr Safleoedd Ymgeisiol yn dangos lleoliad a ffiniau pob safle a gyflwynwyd yn unol â gofynion statudol. Bydd y Gofrestr Safleoedd Ymgeisiol yn cynnwys manylion cynigydd y safle a pherchennog y tir.

Mae’r Ffurflen Gyflwyno hon yn nodi’r wybodaeth y bydd ei hangen ar y Cyngor er mwyn cynnal asesiad cadarn o’r holl safleoedd a gyflwynir. Bydd yr asesiad hwn yn cael ei wneud gan ddefnyddio methodoleg asesu safonol. Cyfeiriwch at y ddogfen ‘Nodyn Cyfarwyddyd a Methodoleg Asesu’r Ffurflen Cyflwyno Safleoedd Ymgeisiol’, sy’n ymdrin â’r wybodaeth y mae angen i chi ei darparu. Mae’r ffurflen hon a’r ddogfen gyfarwyddyd ar gael ar-lein ar wefan y Cyngor yn https://www.abertawe.gov.uk/safleoeddymgeisiol mewn fformat dwyieithog.

Mae gwybodaeth am gyfyngiadau safleoedd wedi’i chrynhoi mewn offeryn mapio ar-lein i gynorthwyo cyflwynwyr safleoedd – ac mae ar gael yma: Constraints and Information Map

Os hoffech ddarparu rhagor o wybodaeth ond nid oes digon o le ar y ffurflen i ganiatáu hynny, defnyddiwch yr adran Gwybodaeth Ychwanegol ar ddiwedd y Ffurflen Cyflwyno.

Trothwyon Safleoedd:

Yn achos datblygiadau preswyl – y trothwy ar gyfer cyflwyno safle ar gyfer tai arfaethedig yw naill ai 10 annedd neu isafswm maint safle o 0.33ha. Yr eithriad i’r trothwy hwn yw’r ardaloedd hynny yn y Sir y mae’r Cyngor o’r farn eu bod o gymeriad gwledig, lle mae’r trothwy naill ai’n 5 annedd neu isafswm maint safle o 0.1ha. Bydd angen i gyflwynwyr safleoedd benderfynu os ydynt yn ystyried bod gan y safle gymeriad digon gwledig i gyfiawnhau’r eithriad hwn. Os cyflwynir safleoedd sydd, ym marn y Cyngor, yn rhai nad ydynt yn bodloni’r trothwyon angenrheidiol, mae’n bosibl na fyddant yn cael eu hystyried yn Safleoedd Ymgeisiol, ond y byddant yn cael eu hystyried fel rhan o’r broses adolygu ffiniau aneddiadau.

Yn achos datblygiadau amhreswyl – nid oes trothwy lleiaf ar gyfer maint safleoedd. Lle cynigir safle ar gyfer cymysgedd o ddefnyddiau gan gynnwys defnydd preswyl, bydd y Cyngor yn defnyddio’r un trothwy ar gyfer y rhan o’r safle a gynigir ar gyfer defnydd preswyl arfaethedig.

Egwyddorion Creu Lleoedd:

Mae egwyddorion Creu Lleoedd wrth wraidd agenda cynllunio strategol y Cyngor, ac mae’r Cyngor wedi llofnodi Siarter Creu Lleoedd Cymru. Mae Creu Lleoedd yn ddull sy’n ‘rhoi lle canolog i bobl’ wrth gynllunio, dylunio a rheoli lleoedd a gofodau. Y nod yw creu adeiladau ac ardaloedd y mae pobl yn dymuno byw, gweithio a threulio amser hamdden ynddynt. Felly, mae’n ofynnol i gynigwyr safleoedd nodi yn adran 9 sut y bydd safleoedd ymgeisiol arfaethedig yn cyflawni egwyddorion cenedlaethol o ran creu lleoedd cynaliadwy. 
 

Ffurflen Cyflwyno Safle Ymgeisiol

Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig