Cytundeb Cyflawni (Drafft) Mawrth 2023
Atodiad 4: Cynllun Cynnwys Cymunedau
Cam 1 Cytundeb Cyflawni (CDLl Rheoliad 9) (Diffiniol)
Tabl 2 – Cynllun Cynnwys Cymunedau |
||||||
BETH Disgrifiad a Chamau Allweddol |
PAM Pwrpas yr Ymgysylltiad |
PRYD Amserlenni |
PWY Pwy sy'n cyfrannu |
SUT Ymgysylltu |
ADBORTH Adrodd |
SA/AAS/ISA Ymgysylltu |
Y CC yw'r offeryn rheoli prosiect sy'n nodi'r amserlen y cytunwyd arni a'r cynllun cynnwys cymunedau ar gyfer y CDLl Newydd Caiff CC ei ddrafftio gyda mewnbwn gan randdeiliaid a dargedir a'i gyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus Ar ôl ystyried y sylwadau, bydd y CC terfynol yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru yn dilyn Cymeradwyaeth y Cyngor Llywodraeth Cymru yn cymeradwyo'r CC a dechrau ffurfiol ar y CDLl Newydd |
Ymgysylltu gan Lywodraeth Cymru ar yr amserlen a PEDW ar addasrwydd Dyddiadau Archwilio Ymgynghoriad cyhoeddus i nodi'r amserlen a chaniatáu mewnbwn ar y Cynllun Cynnwys arfaethedig |
4 wythnos o ymgynghoriad cyhoeddus anstatudol o fis Mawrth i fis Ebrill 2023 Y Cyngor Llawn yn cymeradwyo'r CC Terfynol Gorfennaf 2023 ac yn ei gyflwyno i LlC Gorfennaf 2023 LlC i ymateb o fewn 4 wythnos Disgwylir i'r CDLl Newydd ddechrau Gorffennaf 2023 yn dilyn LlC |
Drafftio – Rhanddeiliaid mewnol, Llywodraeth Cymru, PEDW, Cyngor Llawn Ymgynghoriad Cyhoeddus- Pob Rhanddeiliad Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru/LlC Aelodau Etholedig |
Drafftio– E-byst/ Cyfarfodydd, Adroddiad i'r Cyngor Llawn Hysbysebu'r Ymgynghoriad Cyhoeddus drwy: Cronfa Ddata Rhanddeiliaid y CDLl E-byst Gwefan Y Wasg a'r Cyfryngau Cymdeithasol Sesiynau galw heibio yn Swyddfeydd y Cyngor Dogfennau Ymgynghori ar gael ar: Gwefan CDLl Newydd Copi caled o'r ddogfen ar gael yn y Ganolfan Ddinesig a'r Guildhall CC terfynol ar gael ar: Gwefan Copi caled yn y Ganolfan Ddinesig a'r Guildhall |
Bydd Agenda a Chofnodion y Cyngor Llawn yn cofnodi'r prosesau ymgysylltu gwleidyddol ar gyfer y CC drafft a therfynol. Bydd y CC yn cynnwys adroddiad ymgynghori yn nodi'r sylwadau a dderbyniwyd, ymateb y Cyngor i'r sylwadau ac unrhyw newidiadau angenrheidiol i'r CC |
Gwaith mewnol parhaus yn gwerthuso a diweddaru'r Fframwaith Arfarniad o Gynaliadwyedd a'r dystiolaeth sylfaenol a ddefnyddiwyd i lywio'r CDLl presennol. Ystyriaeth barhaus i fabwysiadu Arfarniad o Gynaliadwyedd integredig gyda rhanddeiliaid mewnol ac allanol perthnasol |
Cam 2 Cyfranogiad Cyn Adneuo (CDLl Rheoliad 14) (Cam Diffiniol)
BETH Disgrifiad a Chamau Allweddol |
PAM Pwrpas yr Ymgysylltiad |
PRYD Amserlenni Bras |
PWY Pwy sy'n cyfrannu |
SUT Ymgysylltu |
ADBORTH Adrodd |
SA/AAS/ISA Ymgysylltu |
Deall y cyd-destun a'r materion i fynd i'r afael â nhw yn y CDLl Newydd, casglu tystiolaeth a gwahoddiad i gyflwyno safleoedd i'w hystyried a datblygu gweledigaeth ac amcanion i arwain y gwaith o baratoi'r CDLl Newydd. Adolygu a diweddaru'r sail dystiolaeth Galwad am Safleoedd Ymgeisiol Ymgysylltu â rhanddeiliaid i ddatblygu'r materion allweddol a ffurfio gweledigaeth ac amcanion trosfwaol i arwain y CDLl Newydd a datblygu opsiynau strategol Paratoi Adroddiad Cwmpasu yr Arfarniad o Gynaliadwyedd a chynnal ymgynghoriad wedi'i dargedu â rhanddeiliaid allweddol Paratoi Strategaeth a Ffefrir y CDLl Newydd yn nodi'r strategaeth gyffredinol a pholisïau strategol a safleoedd strategol allweddol Paratoi'r Adroddiad SA Cychwynnol a'r Asesiad Sgrinio Rheoliadau Cynefinoedd Cael cymeradwyaeth y Cyngor Llawn i'r Strategaeth a Ffefrir a dogfennau SA/HRA i fynd allan ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus statudol |
I adeiladu'r sail dystiolaeth o faterion allweddol y bydd angen i'r CDLl Newydd eu hystyried. I dderbyn gan yr holl randdeiliaid safleoedd posibl i'w datblygu neu eu diogelu. I gael consensws gan randdeiliaid allweddol ar weledigaeth ac amcanion ar gyfer y CDLl Newydd a fydd yn llywio'r Strategaeth a Ffefrir |
Yn parhau o fis Mehefin 2022 Bydd yr Alwad am Safleoedd Ymgeisiol ar agor am o leiaf chwe wythnos o fis Awst i fis Hydref 2023 Cyfnod ymgynghori statudol o 5 wythnos ar Adroddiad Cwmpasu yr Arfarniad o Gynaliadwyedd tua mis Awst 2023 Ymgysylltu â chyrff ymgynghori penodol a chyffredinol allweddol fel yr ystyrir yn briodol ar ddatblygu'r Weledigaeth a'r Amcanion a'r Amcanion a'r Opsiynau Strategol tua mis Medi 2023-Ionawr 2024. Ymgysylltu anffurfiol parhaus ag adrannau mewnol allweddol/cyrff allanol i lywio gwaith drwy gydol 2023 Y Cyngor Llawn i gymeradwyo'r Strategaeth a Ffefrir a'r dogfennau ategol ym mis Mehefin 2024 |
Ymgysylltu wedi'i dargedu ag adrannau mewnol a chyrff allanol ac awdurdodau cyfagos wrth ddatblygu'r sail dystiolaeth. Ymgynghori â Chyrff Ymgynghori Amgylcheddol ar Adroddiad Cwmpasu'r Arfarniad o Gynaliadwyedd Bydd yr Alwad am Safleoedd Ymgeisiol yn agored i bob rhanddeiliad gan gynnwys adrannau mewnol, cyrff allanol, datblygwyr, tirfeddianwyr, y cyhoedd, grwpiau cymunedol i gyflwyno safleoedd i'w hystyried. Ymgysylltu wedi'i dargedu ag adrannau mewnol a chyrff ymgynghori allanol a cyffredinol a phenodol penodol fel y'r ystyrir yn briodol Swyddogion mewnol a Gweithgor y CDLIA os ystyrir ynbriodol. Ymgysylltu ag Aelodau Etholedig drwy'r broses |
Ymgysylltu wedi'i dargedu drwy: E-byst Teams a chyfarfodydd wyneb yn wyneb Ymgysylltu ynghylch yr adroddiad cwmpasu SA drwy: E-byst Cyfarfodydd Teams fel y bo'n briodol Rhoddir cyhoeddusrwydd eang i'r Alwad am Safleoedd Ymgeisiol ar gyfryngau cymdeithasol ac ar y wefan cyn y cam ffurfiol ar gyfer galw am safleoedd er mwyn caniatáu i bartïon ystyried a pharatoi tystiolaeth angenrheidiol a fydd yn allweddol i sicrhau bod blaenlwytho'n digwydd. Rhoddir cyhoeddusrwydd i Gam yr Alwad am Safleoedd gan ddefnyddio'r canlynol fel y bo'n briodol: E-byst Sesiynau galw heibio gyda swyddogion trwy Teams neu gyfarfodydd wyneb yn wyneb Cyfarfodydd rhithwir Hysbysebu'r Ymgynghoriad Cyhoeddus drwy: Cronfa Ddata Rhanddeiliaid y CDLl E-byst Gwefan Y Wasg a'r Cyfryngau Cymdeithasol Sesiynau galw heibio yn Swyddfeydd y Cyngor Bydd y Cyngor yn cyhoeddi Canllawiau a Methodoleg Cyflwyno Safleoedd Ymgeisiol manwl i egluro'r broses dadansoddi a dethol safleoedd a ragwelir. Ymgysylltu â chyrff ymgynghori penodol a chyffredinol drwy: E-byst Cyfarfodydd wyneb yn wyneb/digwyddiadau rhithwir fel y bo'n briodol |
Bydd papurau cefndir a thystiolaeth yn cael eu lanlwytho i dudalennau gwe'r CDLl Newydd pan fyddant ar gael. Yn dilyn yr Alwad am Safleoedd Ymgeisiol bydd y Cyngor yn cynhyrchu Cofrestr o Safleoedd Ymgeisiol a fydd ar gael ar wefan y CDLl Newydd ac ar ffurf copi caled yn y Ganolfan Ddinesig. Bydd Agenda a Chofnodion y Cyngor Llawn yn cofnodi'r prosesau ymgysylltu gwleidyddol ar gyfer y CC drafft a therfynol. |
Gwaith mewnol parhaus yn gwerthuso a diweddaru'r Fframwaith Arfarniad o Gynaliadwyedd a'r dystiolaeth sylfaenol a ddefnyddiwyd i lywio'r CDLl presennol. Ymgynghoriad Statudol ar yr Adroddiad Cwmpasu Ymgysylltu'n anffurfiol â CNC ynghylch yr Adroddiad Sgrinio HRA |
Cam 3 Ymgynghoriad Cyn Adneuo (CDLl Rheoliad 15) (Cam Diffiniol)
BETH Disgrifiad a Chamau Allweddol |
PAM Pwrpas yr Ymgysylltiad |
PRYD Amserlenni Bras |
PWY Pwy sy'n cyfrannu |
SUT Ymgysylltu |
ADBORTH Adrodd |
SA/AAS/ISA Ymgysylltu |
Ymgynghoriad Cyhoeddus ar: Strategaeth a Ffefrir y CDLl Newydd Adroddiad Arfarniad o Gynaliadwyedd Cychwynnol Asesiad Sgrinio HRA Tystiolaeth Gefndirol ac unrhyw bapurau pwnc perthnasol |
Er mwyn cael mewnbwn eang i Strategaeth a Ffefrir y CDLl Drafft, er mwyn galluogi rhanddeiliaid a'r cyhoedd i gyflwyno eu barn ar y strategaeth sy'n dod i'r amlwg, polisïau allweddol a safleoedd strategol a dogfennau cysylltiedig |
Ymgynghori â'r Cyhoedd yn ystod cyfnod statudol o chwe wythnos rhwng Gorffennaf ac Awst 2024 |
Ymgynghori â'r holl randdeiliaid sydd â diddordeb yn y CDLl Newydd: |
Ymgynghoriad cyhoeddus i'w hysbysebu'n eang: Negeseuon e-bost at yr holl ymgyngoreion ar gronfa ddata'r CDLl Sianeli cyfryngau cymdeithasol a gwefan y Cyngor Canolfannau Cyswllt y Cyngor Bydd swyddogion yn cynnal, fel yr ystyrir yn briodol: Sesiynau galw heibio Arddangosfeydd Ymgysylltu â Chynghorau Cymuned a grwpiau allweddol a nodwyd Dogfennau Ymgynghori a ffurflenni sylwadau ar gael ar: Gwefan CDLl Newydd Copïau caled o'r Strategaeth a Ffefrir ar gael yn y Ganolfan Ddinesig a'r Guildhall Copi o'r Strategaeth a Ffefrir a ffurflenni cynrychiolaeth lle bo'n bosibl ym mhob un o'r 17 llyfrgell yn Abertawe Bydd y Cyngor yn ystyried gweithredu system ryngweithiol ar y we i gofnodi sylwadau yn electronig Bydd y Cyngor yn darparu hysbysiad a datganiad o faterion cyn-adneuo yn ystod y cam hwn yn unol â'r Rheoliadau |
Bydd sylwadau ac ymatebion iddynt yn cael eu hadrodd i'r Aelodau Etholedig Bydd yr holl sylwadau ac ymatebion, ynghyd ag unrhyw newidiadau i'r Cynllun Cyn-adneuo ar gael i'r cyhoedd fel rhan o'r Adroddiad Ymgynghori Cychwynnol sy'n cyd-fynd â'r Cynllun Adneuo. Bydd papurau cefndir a thystiolaeth yn cael eu lanlwytho i dudalennau gwe'r CDLl Newydd pan fyddant ar gael. |
Bydd y Cyngor yn dilyn arfer gorau ac yn ymgynghori ar yr Adroddiad SA Cychwynnol ac Asesiad Sgrinio HRA ochr yn ochr â'r Strategaeth a Ffefrir er y bydd hyn yn cael ei dargedu'n benodol at y Cyrff Ymgynghori Amgylcheddol. |
Cam 4 Ymgynghoriad Cynigion Adneuo (CDLl Rheoliad 17) (Cam Diffiniol)
BETH Disgrifiad a Chamau Allweddol |
PAM Pwrpas yr Ymgysylltiad |
PRYD Amserlenni Bras |
PWY Pwy sy'n cyfrannu |
SUT Ymgysylltu |
ADBORTH Adrodd |
SA/AAS/ISA Ymgysylltu |
Cael Cymeradwyaeth y Cyngor ar y Cynllun Adneuo ac Ymgynghoriad Cyhoeddus ar: Cynllun Adneuo CDLl Newydd Adroddiad yr Arfarniad o Gynaliadwyedd (ISA) HRA Asesiad o Safleoedd Ymgeisiol Cyhoeddi dogfennau cefndir ategol (tystiolaeth) Cyhoeddi Adroddiad Ymgynghori Cychwynnol |
I sicrhau mewnbwn eang i'r Cynllun Adneuo er mwyn caniatáu i randdeiliaid a'r cyhoedd gyflwyno eu barn ar y Cynllun Adneuo, y polisïau allweddol i arwain datblygiad a defnydd tir a'r dyraniadau datblygu arfaethedig ar gyfer gwahanol ddefnyddiau ac ardaloedd gwarchod. |
Y Cyngor Llawn i gymeradwyo'r Cynllun Adneuo a'r dogfennau ategol ym mis Mai 2025. Ymgynghoriad Cyhoeddus i'w gynnal am gyfnod statudol o chwe wythnos yn ystod Mehefin i Orffennaf 2025 ar y Cynllun Adneuo a'r Adroddiad SA rhwng Mehefin a Gorffennaf 2025 |
Ymgynghori â'r holl randdeiliaid sydd â diddordeb yn y CDLl Newydd: |
Ymgynghoriad cyhoeddus i'w hysbysebu'n eang: Negeseuon e-bost at yr holl ymgyngoreion ar gronfa ddata'r CDLl Sianeli cyfryngau cymdeithasol a gwefan y Cyngor Canolfannau Cyswllt y Cyngor Bydd swyddogion yn cynnal, fel yr ystyrir yn briodol: Sesiynau galw heibio Arddangosfeydd Ymgysylltu â Chynghorau Cymuned a grwpiau allweddol a nodwyd Dogfennau Ymgynghori a ffurflenni sylwadau ar gael ar: Gwefan CDLl Newydd Copïau caled o'r Strategaeth a Ffefrir ar gael yn y Ganolfan Ddinesig a'r Guildhall Copi o'r Strategaeth a Ffefrir a ffurflenni cynrychiolaeth lle bo'n bosibl ym mhob un o'r 17 llyfrgell yn Abertawe Bydd y Cyngor yn ystyried gweithredu system ryngweithiol ar y we i gofnodi sylwadau yn electronig Bydd y Cyngor yn darparu hysbysiad a datganiad o faterion cyn-adneuo yn ystod y cam hwn yn unol â'r Rheoliadau |
Bydd y Cyngor yn cofnodi'r holl sylwadau a wneir yn briodol ac yn sicrhau bod copi ar gael cyn gynted ag sy'n ymarferol bosibl i'w archwilio yn y Ganolfan Ddinesig, Abertawe. Bydd Gwefan y CDLl Newydd yn rhoi manylion y sylwadau a dderbyniwyd cyn gynted ag sy'n ymarferol bosibl. Bydd y Gofrestr Safleoedd Ymgeisiol yn cael ei diweddaru gyda Safleoedd Newydd/Amgen a gyflwynir Bydd sylwadau ac ymatebion iddynt yn cael eu hadrodd i'r Aelodau Etholedig Bydd yr holl sylwadau ac ymatebion, ynghyd ag unrhyw newidiadau i'r Cynllun Cyn-adneuo ar gael i'r cyhoedd fel rhan o'r Adroddiad Ymgynghori Cychwynnol sy'n cyd-fynd â'r Cynllun Adneuo. Bydd papurau cefndir a thystiolaeth yn cael eu lanlwytho i dudalennau gwe'r CDLl Newydd pan fyddant ar gael. |
Bydd y Cyngor yn dilyn arfer gorau ac yn ymgynghori ar yr Adroddiad SA Cychwynnol ac Asesiad Sgrinio HRA ochr yn ochr â'r Strategaeth a Ffefrir er y bydd hyn yn cael ei dargedu'n benodol at y Cyrff Ymgynghori Amgylcheddol. |
Cam 5 Cyflwyno'r CDLl Newydd a dogfennau cysylltiedig i Lywodraeth Cymru a Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru i'w Harchwilio'n Annibynnol (Rheoliad 22) (Cam Dangosol)
BETH Disgrifiad a Chamau Allweddol |
PAM Pwrpas yr Ymgysylltiad |
PRYD Amserlenni Bras |
PWY Pwy sy'n cyfrannu |
SUT Ymgysylltu |
ADBORTH Adrodd |
SA/AAS/ISA Ymgysylltu |
Mae'r Cyngor yn cyflwyno'r CDLl Newydd a'r holl dystiolaeth ategol a dogfennau cefndir i LlC a PEDW i'w Harchwilio'n Annibynnol. Mae'r dogfennau a gyflwynir yn cynnwys: Cynllun Adneuo SA (ISA), HRA CC (gan gynnwys CIS) Adroddiad Ymgynghori Adroddiad Adolygu Cofrestr Safleoedd Ymgeisiol Asesiad o Safleoedd Ymgeisiol Copi o sylwadau a wnaed yn briodol a dderbyniwyd yn y cyfnod Adneuo Dogfennau a thystiolaeth ategol. Bydd tîm y CDLl yn hysbysu'r holl randdeiliaid bod y CDLl Newydd wedi'i gyflwyno i'w Archwilio |
Amherthnasol – Mae angen cyflwyno'r CDLl Newydd yn unol â Rheoliad 22 y CDLl |
Disgwylir cyflwyno'r CDLl Newydd tua mis Rhagfyr 2025 |
Bydd yr holl randdeiliaid (gan gynnwys y sawl sy'n gwneud sylwadau) yn cael eu hysbysu. |
Bydd rhanddeiliaid yn cael eu hysbysu trwy: E-bost Gwefan Llythyrau fel y bo'n briodol Anfonir copïau o ddogfennau at Lywodraeth Cymru a PEDW yn unol â'r Rheoliadau Bydd y Cyngor yn cyhoeddi datganiad ar ei wefan bod y CDLl wedi'i gyflwyno i'w Archwilio a bydd ar gael i'w archwilio yn ystod oriau swyddfa arferol yn y Ganolfan Ddinesig, Abertawe. Bydd y CDLl Newydd a'r dogfennau a gyflwynir yn cael eu cyhoeddi ar-lein. Bydd copi caled o'r dogfennau ar gael i'w gweld yng Nghanolfan Ddinesig Abertawe |
Bydd y Cyngor yn cyhoeddi unrhyw ohebiaeth a dderbynnir oddi wrth LlC a'r Arolygydd ar ei wefan. Bydd Swyddog Rhaglen wedi'i benodi a fydd yn sefydlu gwefan Archwilio a bydd yn gweithredu fel rhyngwyneb rhwng yr ACLl a'r Arolygydd Cynllunio. |
Bydd adroddiad yr Arfarniad o Gynaliadwyedd (ISA) yn cael ei gyflwyno yn dangos sut mae'r prosesau asesu wedi llywio cynnwys y Cynllun |
Cam 6 Archwilio Cyflwyno'r CDLl Newydd a dogfennau cysylltiedig i Lywodraeth Cymru a Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru i'w Harchwilio'n Annibynnol (Rheoliad 22) (Cam Dangosol)
BETH Disgrifiad a Chamau Allweddol |
PAM Pwrpas yr Ymgysylltiad |
PRYD Amserlenni Bras |
PWY Pwy sy'n cyfrannu |
SUT Ymgysylltu |
ADBORTH Adrodd |
SA/AAS/ISA Ymgysylltu |
Hysbysiad o Archwiliad Annibynnol. Rhoi gwybod am yr Arolygydd penodedig i gynnal yr Archwiliad a'r amserlen ar gyfer Cyfarfod Cyn Wrandawiad Cyhoeddi manylion y Sesiynau Gwrandawiadau a hysbysu'r holl bartïon â diddordeb gan nodi dyddiadau a lleoliad Nodi meysydd Tir Cyffredin gyda gwrthwynebwyr i ganolbwyntio arnynt yn y sesiynau gwrandawiadau Paratoi Newidiadau Materion sy'n Codi (MACau) fel y bo'n briodol Ymgynghori ar MACau |
Cynnal Archwiliad Annibynnol o'r CDLl Newydd yn unol â Rheoliadau'r CDLl a chaniatáu mewnbwn rhanddeiliaid i'r sesiynau gwrandawiadau fel sy'n ofynnol gan yr Arolygydd |
Mae'n rhaid derbyn hysbysiad o leiaf chwe wythnos cyn dechrau'r sesiwn gwrandawiadau cyntaf. Cyfarfod Cyn Wrandawiad amcangyfrifedig Ionawr / Chwefror 2026 Bydd Gwrandawiadau Amcangyfrifedig yn cychwyn tua mis Chwefror 2026 a byddant yn rhedeg tan fis Ebrill 2026. |
Pob parti â diddordeb (gan gynnwys y sawl sy'n gwneud sylwadau). Bydd cymryd rhan yn y sesiynau gwrandawiadau ar gais yr Arolygydd penodedig. Newidiadau Materion sy'n Codi – Bydd yr holl randdeiliaid yn gallu cyfrannu at ymgynghoriad ar unrhyw MAC. |
Hysbysiad ffurfiol yn cael ei roi drwy e-bost i unrhyw berson sydd wedi gwneud sylw (ac heb ei dynnu'nol) Bydd yr archwiliad cyhoeddus yn cael ei reoli gan yr Arolygydd a'r Swyddog Rhaglen penodedig. Er y bydd yr Arolygydd yn gofyn am gyfranogiad gan randdeiliaid penodol, bydd yr Archwiliad yn agored i unrhyw aelod o'r cyhoedd i fod yn bresennol a gweld y trafodion. Bydd Llyfrgell yr Archwiliad ar gael i'w gweld ar wefan y Cyngor ond bydd hefyd ar gael i'w gweld yn lleoliad yr Archwiliad. Bydd natur a ffurf y sesiynau gwrandawiadau yn cael eu pennu gan yr Arolygydd a byddant yn cael eu cyhoeddi ar y wefan. Mae'n debygol y bydd hyn ar ffurf trafodaethau bord gron, gwrandawiadau ffurfiol (os gofynnir amdanynt a'u cytuno gan yr Arolgydd) a chyflwyniadau ysgrifenedig. Bydd Newidiadau Materion sy'n Codi yn cael eu hysbysebu'n eang: E-byst at yr holl randdeiliaid ar y gronfa ddata Hysbysebu ar y wefan Y Wasg a'r Cyfryngau Cymdeithasol Dogfennau Ymgynghori a ffurflenni sylwadau ar gael ar: Gwefan CDLl Newydd Copi caled yn y Ganolfan Ddinesig a 17 llyfrgell Abertawe |
Bydd y Swyddog Rhaglen yn rheoli gwefan yr Archwiliad a fydd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i bartïon a bydd yn lanlwytho agendâu a datganiadau ar gyfer sesiynau gwrandawiadau. Bydd yr holl ohebiaeth rhwng yr Arolygydd a'r Cyngor yn cael ei lanlwytho i'r wefan. Bydd y Cyngor yn ymgynghori â rhanddeiliaid a'r cyhoedd ar unrhyw newidiadau ôl-adneuo arfaethedig (MACau). |
Gall sylwadau sy'n ymwneud â'r SA (ISA) a wnaed yn briodol ymddangos yn yr Archwiliad. Bydd unrhyw newidiadau a wneir ar ôl adneuo (MACau) yn ystod yr Archwiliad neu'r rhai sy'n ofynnol gan yr Arolygydd yn destun asesiad a byddant ar gael ar gyfer ymgynghoriad. |
Cam 7 Cyhoeddi Adroddiad yr Arolygydd, (Rheoliad 24) (Cam Dangosol)
BETH Disgrifiad a Chamau Allweddol |
PAM Pwrpas yr Ymgysylltiad |
PRYD Amserlenni Bras |
PWY Pwy sy'n cyfrannu |
SUT Ymgysylltu |
ADBORTH Adrodd |
SA/AAS/ISA Ymgysylltu |
Mae'r Arolygydd yn cyflwyno ei adroddiad i'r Cyngor yn manylu ar ganlyniad yr Archwiliad Annibynnol Yn dilyn gwirio'r ffeithiau gan y Cyngor cyhoeddir Adroddiad yr Arolygydd o fewn 8 wythnos o'i dderbyn Lle mae'r Arolygydd wedi argymell newidiadau i'r CDLl Newydd mae'r rhain yn rhwymo'r Cyngor a rhaid diweddaru'r CDLl Newydd i adlewyrchu'r newidiadau hyn. Hysbysir pob parti pan fydd Adroddiad yr Arolygydd wedi'i dderbyn a'i gyhoeddi wedi hynny. |
Amh. |
Disgwylir Adroddiad yr Arolygydd erbyn Awst 2026. Bydd hwn yn cael ei gyhoeddi gan y Cyngor ar neu cyn mabwysiadu'r CDLl. |
Bydd yr holl randdeiliaid (gan gynnwys y sawl sy'n gwneud sylwadau) yn cael eu hysbysu. |
Bydd Adroddiad yr Arolygydd yn cael ei gyhoeddi ar y wefan a bydd ar gael i'w weld ar ffurf copi caled yn y Ganolfan Ddinesig, Abertawe a lle bo modd, ym mhob un o'r 17 llyfrgell Abertawe. |
Bydd Adroddiad yr Arolygydd yn nodi eu canfyddiadau o ran cadernid y CDLl Newydd gan gynnwys unrhyw newidiadau a argymhellir a'r rhesymau drostynt. |
Bydd Adroddiad yr Arolygydd yn nodi eu canfyddiadau ar yr Arfarniad o Gynaliadwyedd (ISA). |
Cam 8 Mabwysiadu (Rheoliad 25) (Cam Dangosol)
BETH Disgrifiad a Chamau Allweddol |
PAM Pwrpas yr Ymgysylltiad |
PRYD Amserlenni Bras |
PWY Pwy sy'n cyfrannu |
SUT Ymgysylltu |
ADBORTH Adrodd |
SA/AAS/ISA Ymgysylltu |
Mae'n rhaid cyflwyno'r CDLl Newydd i'r Cyngor i'w gymeradwyo o fewn 8 wythnos i dderbyn Adroddiad yr Arolygydd. Mae'n rhaid i'r Cyngor hefyd roi cyhoeddusrwydd eang i'r ffaith ei fod wedi'i fabwysiadu. Ar ôl ei fabwysiadu, bydd y Cyngor yn sicrhau bod copïau o'r CDLl Newydd, yr Adroddiad Arfarniad o Gynaliadwyedd a'r Datganiad Mabwysiadu ar gael |
Amh. |
Bydd y CDLl Newydd yn cael ei fabwysiadu 8 wythnos ar ôl derbyn Adroddiad yr Arolygydd. Disgwylir i hyn fod tua mis Medi 2026. Mae'n ofynnol i'r Datganiad Ôl-fabwysiadu (o dan y Gyfarwyddeb AAS) gael ei gynhyrchu o fewn 6 wythnos i'r mabwysiadu yn unol ag arfer da |
Bydd y Cyngor Llawn yn gwneud y penderfyniad i fabwysiadu'r CDLl Newydd yn ffurfiol. Bydd yr holl randdeiliaid (gan gynnwys y sawl sy'n gwneud sylwadau) yn cael eu hysbysu. |
Bydd mabwysiadu'r CDLl yn cael ei hysbysebu'n eang drwy E-bost, Gwefan Y Wasg a'r Cyfryngau Cymdeithasol. Bydd y CDLl Newydd mabwysiedig, datganiad mabwysiadu, Adroddiad yr Arfarniad o Gynaliadwyedd ar gael i'w harchwilio yng Nghanolfan Ddinesig Abertawe a lle bo modd, yn mhob un o'r 17 o llyfrgell Abertawe. Anfonir y datganiad mabwysiadu at unrhyw un sy'n gofyn am gael gwybod am fabwysiadu'r CDLl. Bydd 4 copi o'r CDLl a'r datganiad mabwysiadu yn cael eu hanfon at Lywodraeth Cymru |
Bydd agendâu a chofnodion cyfarfodydd y Cyngor yn cofnodi'r broses wleidyddol. Bydd y CDLl Newydd mabwysiedig a dogfennau cysylltiedig yn cael eu cyhoeddi ar y wefan. |
Ar ôl eu mabwysiadu, bydd y Cyngor yn cyhoeddi'r Adroddiadau Monitro Blynyddol statudol erbyn 31 Hydref (oni bai y byddai llai na 12 mis wedi mynd heibio ers mabwysiadu) a fydd yn nodi a yw amcanion yr Arfarniad o Gynaliadwyedd yn cael eu cyflawni. |