Cytundeb Cyflawni (Drafft) Mawrth 2023

Daeth i ben ar 20 Ebrill 2023
Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.

Atodiad 1: Amserlen CDLl Newydd

Atodiad 1: Amserlen CDLl Newydd Abertawe (2023-2038)

2023

2024

2025

2026

2028

I

Ch

M

E

M

M

G

A

M

H

T

Rh

I

CH

M

E

M

M

G

A

M

H

T

Rh

I

CH

M

E

M

M

G

A

M

H

T

Rh

I

Ch

M

E

M

M

G

A

M

H

T

Rh

H

Cam Allweddol 1: Cytundeb Cyflawni (Rheoliad 9)

Adrodd Gwleidyddol - Adrodd ar y CC drafft i'r Cyngor Llawn

(R)

Cyhoeddi CC Drafft ar gyfer ymgynghoriad

(C) (C)

Ystyried ac adrodd ar y sylwadau a dderbyniwyd

(P) (P)

Adrodd Gwleidyddol - Adrodd ar y CC terfynol i'r Cyngor Llawn

(R)

Cyflwyno i LlC i'w gymeradwyo

S

Cyhoeddi CC yn dilyn cymeradwyaeth LlC - CDLl Newydd yn cychwyn yn ffurfiol

(P)

Cam Allweddol 2: Cynigion Cyn-Adneuo/Paratoi a Chyfranogi (Rheoliad 14)

Adolygu a datblygu gwybodaeth a thystiolaeth sylfaenol / Comisiynu ymgynghorwyr allanol

(P) (P) (P) (P) (P) (P) (P) (P) (P) (P) (P) (P) (P) (P) (P) (P) (P) (P) (P) (P) (P) (P) (P) (P) (P) (P) (P) (P) (P)

Adnabod Materion Allweddol

(P) (P) (P) (P) (P) (P) (P)

Paratoi Gweledigaeth ac Amcanion Drafft

(P) (P) (P) (P) (P) (P) (P)

Safleoedd Ymgeisiol - Paratoi Methodoleg Asesu Safleoedd Ymgeisiol

(P) (P) (P) (P) (P) (P) (P)

ISA Cam A: Paratoi Adroddiad Cwmpasu ISA (AAS)

(P) (P) (P) (P) (P) (P) (P)

ISA Cam A: Ymgynghoriad ar Adroddiad Cwmpasu ISA (AAS).

(C) (C)

Safleoedd Ymgeisiol - Galwad am Safleoedd Ymgeisiol

(C) (C) (C)

ISA Cam A: Asesu, ystyried ac adrodd ar sylwadau a dderbyniwyd ar Adroddiad Cwmpasu ISA (AAS);

(P)

ISA Cam A: Cyhoeddi Adroddiad Cwmpasu ISA (AAS) gan gynnwys penderfyniadau Sgrinio AAS

(P)

Pharatoi ac ymgysylltu ar Weledigaeth ac Amcanion a pharatoi Opsiynau Strategol Drafft

(P) (P) (P) (P) (P)

Ymgysylltu Anffurfiol ar Weledigaeth ac amcanion Drafft ac Opsiynau Strategol

(C) (C)

Safleoedd Ymgeisiol - Paratoi Cofrestr o Safleoedd Ymgeisiol

(P) (P) (P) (P) (P) (P) (P)

Asesiad o Safleoedd Ymgeisiol (Cam 1) - Hidlo Safleoedd Cychwynnol ac Asesiad Manwl

(P) (P) (P) (P) (P)

Paratoi'r Strategaeth a Ffefrir

(P) (P) (P) (P) (P) (P) (P) (P)

Arfarniad o Gynaliadwyedd Cam B: Asesiad o Amcanion ac Opsiynau - Paratoi Adroddiad Cychwynnol ISA (Adroddiad Interim AAS)

(P) (P) (P) (P) (P) (P) (P)

Paratoi Sgrinio HRA o'r Strategaeth a Ffefrir

(P) (P) (P)

Adrodd Gwleidyddol - Strategaeth a Ffefrir, Sgrinio HRA ac ISA i'r Cyngor Llawn

(R)

Cam Allweddol 3: Ymgynghoriad Cyn-adneuo (Rheoliadau 15, 16, 16A)

Ymgynghoriad ar y Strategaeth a Ffefrir (gan gynnwys Safleoedd Strategol), Adroddiad Interim ISA (AAS) ac Adroddiad Sgrinio HRA

(C) (C)

Asesu, ystyried ac adrodd ar ymatebion a dderbyniwyd ar y Strategaeth a Ffefrir, ISA Interim (AAS) ac Adroddiad Sgrinio HRA a Pharatoi Adroddiad Ymgynghori Cychwynnol

(P) (P)

Paratoi Cynllun Adneuo

(P) (P) (P) (P) (P) (P)

Asesiad o Safleoedd Ymgeisiol (Cam 2) - Asesiad Manwl

(P) (P) (P) (P) (P) (P)

Asesiad o Safleoedd Ymgeisiol Newydd

(P) (P) (P) (P) (P) (P)

ISA Cam C: Asesu a lliniaru effeithiau'r CDLl Adneuo - Paratoi Adroddiad ISA (Adroddiad AAS)

(P) (P) (P) (P) (P) (P)

2023

2024

2025

2026

2028

I

Ch

M

E

M

M

G

A

M

H

T

Rh

I

CH

M

E

M

M

G

A

M

H

T

Rh

I

CH

M

E

M

M

G

A

M

H

T

Rh

I

Ch

M

E

M

M

G

A

M

H

T

Rh

H

Paratoi Asesiad Priodol (os oes angen) o'r Cynllun Adneuo

(P) (P) (P)

Adrodd Gwleidyddol - Adrodd ar CDLl Adneuo, Adroddiadau ISA (AAS) a HRA i'r Cyngor Llawn

(R)

Cam Allweddol 4: Cyfranogiad/Ymgynghoriad Cynllun Adneuo (Rheoliad 17)

Ymgynghoriad ar y Cynllun Datblygu Strategol Adneuo drafft, yr ISA (AAS) a'r HRA

(C) (C)

Asesu ac Ystyried y sylwadau a dderbyniwyd mewn perthynas â'r Cynllun Datblygu Strategol drafft, adroddiadau ISA (AAS) a HRA

(P) (P) (P)

Adrodd Gwleidyddol - Y Cyngor yn cymeradwyo cyflwyno'r CDLl Adneuo i Lywodraeth Cymru

(R)

Cam Allweddol 5 - Cyflwyno (Rheoliad 22)

Cyflwyno CDLl Newydd, ISA ac Adroddiad Ymgynghori i LlC

S

Cam Allweddol 6 - Archwilio (Rheoliad 23)

Archwiliad yn cynnwys Cyfarfod Cyn Wrandawiad

(P) E

(P) E

Cyfnod Allweddol 7 - Adroddiad yr Arolygydd (Rheoliad 24)

Paratoi Adroddiad yr Arolygydd

(P) IRP

(P) IRP

(P) IRP

Cyhoeddi Adroddiad yr Arolygydd

(P) IR

(P) IR

Cam Allweddol 8 - Mabwysiadu (Rheoliad 2)

Mabwysiadu CDLl gan y Cyngor Llawn (Rheoliad 35)

(P) A

Cam Allweddol 9 - Monitro ac Adolygu (Rheoliad 37)

Cyflwyno Adroddiad Monitro Blynyddol cyntaf y CDLl

S

Allwedd

Paratoi

(P)

Adrodd Gwleidyddol i'r Pwyllgor Cynllunio/Cyngor Llawn

(R)

Ymgynghoriad Cyhoeddus

(C)

Cyflwyno i LlC

S

Disgrifiad o Gamau Allweddol a Dyddiadau:

Cam 1: Cytundeb Cyflawni

Dyddiadau Allweddol:Ymgynghoriad ar y CC Drafft (Mawrth i Ebrill 23), Cymeradwyaeth Llywodraeth Cymru (Gorffennaf 23)

Bydd y CC yn gweithredu fel offeryn rheoli prosiect i arwain y gwaith o baratoi'r CDLl Newydd. Bydd yn cynnwys yr amserlen ar gyfer ei baratoi a'r Cynllun Cynnwys Cymunedau, gan nodi sut a phryd y bydd rhanddeiliaid yn cymryd rhan yn y broses. Bydd y CC yn destun ymgynghoriad gyda chyrff ymgynghori penodol a chyffredinol fel y bo'n briodol ac aelodau a'r cyhoedd er mwyn ceisio barn ar ei gynnwys. Bydd angen i'r Cyngor gymeradwyo'r CC a bydd yn rhaid i Lywodraeth Cymru gytuno ag ef. Yn dilyn y gymeradwyaeth hon, gall y CDLl Newydd ddechrau.

Cam 2: Cyfranogiad Cyn-adneuo

Dyddiadau Allweddol: Galwad am Safleoedd Ymgeisiol (Awst-Hydref 23), Ymgynghoriad ar yr Adroddiad Cwmpasu Drafft (Awst 23), Ymgynghoriad yn anffurfiol a chynhyrchu ymgynghoriad ar Weledigaeth ac Amcanion Drafft ac Opsiynau Strategol (Medi 23-Ionawr 24),

Yn dilyn cymeradwyo'r CC, bydd y cam ffurfiol cyntaf yn cynnwys y cais am enwebiadau ar gyfer Safleoedd Ymgeisiol i'w cyflwyno i'w hystyried i'w cynnwys yn y CDLl Newydd. Bydd hyn yn cael ei hysbysebu'n eang a bydd yn digwydd dros gyfnod o 12 wythnos. Er mwyn sicrhau bod safleoedd posibl yn cael eu hystyried yn briodol, mae'n rhaid eu cyflwyno yn ystod y cyfnod Galwad am Safleoedd ochr yn ochr â'r dystiolaeth ategol ofynnol. Fodd bynnag, nid yw hwn yn ymrwymiad y bydd yr holl safleoedd yn cael eu cynnwys yn y CDLl Newydd. Ar ôl i'r ymgynghoriad Galwad am Safleoedd ddod i ben, bydd y Cyngor yn paratoi Cofrestr o Safleoedd Ymgeisiol y mae'n rhaid ei chyhoeddi ar wefan y Cyngor a dylai fod ar gael fel rhan o ymgynghoriad Strategaeth a Ffefrir y CDLl Newydd. Bydd y Cyngor yn cynnal Asesiad Cam 1 cychwynnol o'r holl safleoedd a gyflwynwyd ynghyd â gwaith asesu manwl cynnar fel y bo'n briodol.

Bydd y Cyngor yn paratoi Adroddiad Cwmpasu Arfarniad o Gynaliadwyedd Drafft a fydd yn gosod y cyd-destun, yn sefydlu'r llinell sylfaen ac yn nodi'r amcanion SA/AAS Drafft a fydd yn cael eu defnyddio i asesu'r CDLl Newydd. Ymgynghorir â'r cyrff statudol allweddol.

Yn ystod y cam hwn bydd gwaith helaeth yn cael ei wneud i gasglu gwybodaeth a thystiolaeth i ddeall y cyd-destun a'r materion y mae angen mynd i'r afael â nhw yn y CDLl Newydd. Bydd hyn yn cynnwys drwy ymgynghori â rhanddeiliaid, cynhyrchu gweledigaeth ac amcanion ar gyfer y CDLl a datblygu opsiynau strategol a dewisiadau amgen. Bydd hyn yn llywio'r gwaith o baratoi'r Strategaeth a Ffefrir ar gyfer y CDLl Newydd a bydd yn nodi'r ymagwedd fras at raddfa a lleoliad twf sy'n sicrhau bod datblygiad yn cael ei gynllunio mewn modd cynaliadwy. Bydd yn darparu'r fframwaith strategol ar gyfer polisïau, cynigion a dyraniadau manylach a fydd yn cael eu cynnwys yn y CDLl Adneuo Newydd. Bydd y Strategaeth a Ffefrir yn cael ei llywio gan asesiadau cynaliadwyedd gofynnol i'w cynnwys a'u cyhoeddi fel rhan o'r Adroddiad ISA Cychwynnol.

Cam 3: Ymgynghoriad Cyn-adneuo

Dyddiadau Allweddol:Ymgynghoriad ar y CDLl Adneuo Newydd (Gorffennaf-Awst 24)

Mae'r cam hwn yn cynnwys cyfnod 6 wythnos statudol o ymgynghoriad cyhoeddus ac ymgysylltu â rhanddeiliaid ar Strategaeth a Ffefrir y CDLl Newydd a'r Adroddiad ISA ategol.

Ar ôl i'r cyfnod ymgynghori ddod i ben, bydd y Cyngor yn asesu'r ymatebion a dderbyniwyd, yn penderfynu ar y newidiadau sydd eu hangen i'r Strategaeth a Ffefrir ac yn paratoi Adroddiad Ymgynghori Cychwynnol.

Bydd gwaith asesu manwl pellach yn cael ei wneud ar Safleoedd Ymgeisiol a gyflwynwyd yn flaenorol a bydd gwaith asesu yn cael ei wneud ar unrhyw safleoedd newydd a gyflwynir yn ystod cam ymgynghori'r Strategaeth a Ffefrir.

Bydd y Cyngor yn dechrau ar y broses o baratoi'r CDLl Adneuo. Bydd y cynllun adneuo yn nodi'r strategaeth, y polisïau a'r dyraniadau safle, yn seiliedig ar y materion allweddol, yr amcanion a'r sail dystiolaeth ategol ar gyfer y cynllun. Bydd y cynllun adneuo yn siapio ac yn arwain cynigion datblygu i leoliadau cynaliadwy i gyflawni'r raddfa a'r math o dwf sy'n angenrheidiol ar gyfer llesiant cymunedol lleol dros gyfnod y cynllun. Bydd y cynllun yn dangos bod datblygiad yn ariannol hyfyw, yn gyflawnadwy dros amserlen benodedig ac yn cael ei gefnogi gan seilwaith a ariennir. Defnyddir y fframwaith ISA i asesu a lliniaru effeithiau'r Cynllun Adneuo a bydd y broses asesu hon yn cael ei nodi yn yr Adroddiad SA Cychwynnol (yr Adroddiad Amgylcheddol). Bydd adroddiad yr Arfarniad o Gynaliadwyedd yn cofnodi canlyniadau asesu unrhyw opsiynau diwygiedig neu newydd o ganlyniad i ymgynghoriad cyhoeddus neu newidiadau eraill a bydd y cyrff ymgynghori statudol yn cael eu hysbysu ac yn cael cyfle i wneud sylwadau. Bydd yr adroddiad SA ategol yn cael ei ddiweddaru i adlewyrchu'r asesiad o'r Cynllun Adneuo.

Cam 4: Ymgynghoriad ar y CDLl Adneuo

Dyddiadau Allweddol:Ymgynghoriad ar y CDLl Adneuo Newydd (Meh-Gorff 25)

Mae'r cam hwn yn cynnwys cyfnod 6 wythnos statudol o ymgynghoriad cyhoeddus ac ymgysylltu â rhanddeiliaid ar y CDLl Adneuo Newydd, Adroddiad ISA ategol, Adroddiad HRA ac Adroddiad Ymgyghori Cychwynnol.

Ar ôl i'r cyfnod ymgynghori ddod i ben, bydd y Cyngor yn dadansoddi ac yn cofnodi'r sylwadau a dderbyniwyd ac yn paratoi ymateb y Cyngor i'r sylwadau ac yn ystyried newidiadau (Eithriadau yw Newidiadau â Ffocws). Bydd y Cyngor yn sicrhau bod y sylwadau ar gael i'r cyhoedd eu harchwilio. Bydd y Cyngor yn cwblhau'r adroddiad ymgynghori ac yn paratoi datganiadau tir cyffredin gyda gwrthwynebiadau allweddol/strategol.

Bydd swyddog rhaglen yn cael ei benodi, a bydd y Cyngor yn cysylltu â Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru i gyflwyno amseriadau diffiniol ar gyfer y camau sy'n weddill. Bydd rhanddeiliaid yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am amserlenni wrth symud ymlaen.

Yn olaf, bydd y CDLl Adneuo, yr Adroddiad SA a'r dogfennau ategol yn cael eu cyflwyno i'r Cyngor i'w cymeradwyo ar gyfer eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru.

Cam 5: Cyflwyno

Dyddiadau Allweddol:Cyflwyno'r CDLl Adneuo i Lywodraeth Cymru (Rhagfyr 25)

Bydd y CDLl Adneuo, yr Adroddiad SA, yr adroddiad ymgynghori terfynol a'r holl dystiolaeth ategol yn cael eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru a Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru i'w Harchwilio gan Arolygydd Cynllunio Annibynnol.

Bydd y Cyngor yn dilyn canllawiau cyhoeddedig ar baratoi/gweithdrefnau ar gyfer cyflwyno ac archwilio. Bydd manylion yr Archwiliad yn cael eu hysbysebu ar wefan Archwilio'r Cyngor a byddant yn cael eu hysbysu i'r sawl sy'n gwneud sylwadau a phartïon â diddordeb sydd ar gronfa ddata'r CDLl Newydd. Bydd cyfle i'r rhai a gyflwynodd sylwadau 'a wnaed yn briodol' yn y cam Adneuo gael eu clywed gan yr Arolygydd. Rôl yr Arolygydd yw archwilio'r CDLl Newydd yn ei gyfanrwydd a phrofi ei gadernid, ystyried yr holl dystiolaeth berthnasol a pharatoi argymhellion a'r rhesymau dros yr argymhellion hynny ar ffurf Adroddiad yr Arolygydd.

Cam 6: Archwiliad Annibynnol

Dyddiadau Allweddol:Cyfarfod Cyn Wrandawiad (os oes angen) (Ionawr/Chwefror 26), Archwiliad (Maw/Ebrill 26)

Bydd arolygydd annibynnol o PEDW yn cynnal yr archwiliad o'r CDLl Newydd. Bydd hyn yn cael ei wneud dros gyfres o sesiynau gwrandawiadau ar wahanol feysydd pwnc. Bydd yr holl ddogfennaeth sy'n gysylltiedig â'r Archwiliad ar gael ar wefan y CDLl Newydd. Anfonir gwybodaeth at bartïon â diddordeb a'r cyhoedd yn ogystal â'r rhai sy'n ymwneud â'r achos cyffredinol. Rôl yr Arolygydd fydd archwilio'r CDLl Newydd yn ei gyfanrwydd a phrofi ei gadernid. Byddant yn paratoi argymhellion a'r rhesymau dros yr argymhellion hynny ar ffurf Adroddiad yr Arolygydd.

Yn ystod y cam Archwilio, bydd y broses ISA yn cael ei defnyddio i sicrhau bod unrhyw newidiadau a wneir i'r Cynllun Adneuo (Newidiadau â Ffocws, Newidiadau Materion sy'n Codi yn ystod yr archwiliad neu'r rhai sy'n ofynnol gan yr Arolygydd) wedi'u hasesu'n briodol i sicrhau eu bod yn gynaliadwy.

Cam 7: Derbyn a Chyhoeddi Adroddiad yr Arolygydd

Dyddiadau Dangosol Allweddol: Derbyn a Chyhoeddi Adroddiad yr Arolygydd (Awst 26)

Bydd yr Arolygydd yn cyflwyno ei adroddiad terfynol i'r Cyngor a fydd yn rhwymol. Cyn cyhoeddi'r adroddiad, bydd y Cyngor yn cynnal ymarfer gwirio ffeithiau o fewn pythefnos i dderbyn Adroddiad yr Arolygydd. Unwaith y bydd hyn wedi'i gwblhau a'r Arolygydd wedi ymateb i unrhyw bwyntiau a godwyd, bydd yr adroddiad terfynol yn cael ei gyflwyno i'r Cyngor a Chyfarwyddiaeth Gynllunio Llywodraeth Cymru. Daw'r archwiliad i ben yn ffurfiol pan gyflwynir Adroddiad yr Arolygydd i'r ACLl. Bydd y Cyngor yn cyhoeddi Adroddiad yr Arolygydd cyn y dyddiad y caiff ei fabwysiadu yn ystod Awst 2025

Cam 8: Mabwysiadu

Dyddiadau Dangosol Allweddol: Cyngor yn mabwysiadu'r CDLl (Medi 26)

O fewn 8 wythnos i dderbyn Adroddiad yr Arolygydd, os ystyrir bod y cynllun yn gadarn, bydd rhaid i'r Cyngor fabwysiadu'r CDLl. Ar ôl ei fabwysiadu, bydd y Cyngor yn cyhoeddi datganiad mabwysiadu yn unol â'r rheoliadau, yn rhoi cyhoeddusrwydd eang bod y CDLl wedi'i fabwysiadu a lle gellir ei archwilio. Bydd y mabwysiadu'n nodi'r dyddiad mabwysiadu a'r cyfnod ar gyfer her yr Uchel Lys. Daw'r CDLl yn weithredol ar y dyddiad mabwysiadu.

Cam 9: Monitro ac Adolygu

Dyddiadau Dangosol Allweddol: Cyflwyno Adroddiad Monitro Blynyddol cyntaf y CDLl (Hyd 28)

Bydd y Cyngor yn monitro'r CDLl Newydd yn flynyddol i nodi gweithrediad llwyddiannus polisïau a meysydd lle mae angen newid. Bydd hefyd yn monitro effeithiau sylweddol y CDLl Newydd yn erbyn amcanion cynaliadwyedd. Bydd yr Adroddiad Monitro Blynyddol cyntaf yn cael ei gynhyrchu ym mis Hydref 2028 ac yn caniatáu ar gyfer blwyddyn lawn o fonitro (1 Ebrill – 31 Mawrth) yn ystod y flwyddyn ariannol ar ôl mabwysiadu.

Bydd angen dechrau adolygiad statudol o'r CDLl Newydd o leiaf 4 blynedd ar ôl ei fabwysiadu erbyn Medi 2030.

Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig