Cytundeb Cyflawni (Drafft) Mawrth 2023

Daeth i ben ar 20 Ebrill 2023
Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.

Atodiad 4: Cynllun Cynnwys Cymunedau

Cam 1 Cytundeb Cyflawni (CDLl Rheoliad 9) (Diffiniol)

Tabl 2 – Cynllun Cynnwys Cymunedau

BETH

Disgrifiad a Chamau Allweddol

PAM

Pwrpas yr Ymgysylltiad

PRYD

Amserlenni

PWY

Pwy sy'n cyfrannu

SUT

Ymgysylltu

ADBORTH

Adrodd

SA/AAS/ISA

Ymgysylltu

Y CC yw'r offeryn rheoli prosiect sy'n nodi'r amserlen y cytunwyd arni a'r cynllun cynnwys cymunedau ar gyfer y CDLl Newydd

Caiff CC ei ddrafftio gyda mewnbwn gan randdeiliaid a dargedir a'i gyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus

Ar ôl ystyried y sylwadau, bydd y CC terfynol yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru yn dilyn Cymeradwyaeth y Cyngor

Llywodraeth Cymru yn cymeradwyo'r CC a dechrau ffurfiol ar y CDLl Newydd

Ymgysylltu gan Lywodraeth Cymru ar yr amserlen a PEDW ar addasrwydd Dyddiadau Archwilio

Ymgynghoriad cyhoeddus i nodi'r amserlen a chaniatáu mewnbwn ar y Cynllun Cynnwys arfaethedig

4 wythnos o ymgynghoriad cyhoeddus anstatudol o fis Mawrth i fis Ebrill 2023

Y Cyngor Llawn yn cymeradwyo'r CC Terfynol Gorfennaf 2023 ac yn ei gyflwyno i LlC Gorfennaf 2023

LlC i ymateb o fewn 4 wythnos

Disgwylir i'r CDLl Newydd ddechrau Gorffennaf 2023 yn dilyn LlC

Drafftio – Rhanddeiliaid mewnol, Llywodraeth Cymru, PEDW, Cyngor Llawn

Ymgynghoriad Cyhoeddus-

Pob Rhanddeiliad

Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru/LlC

Aelodau Etholedig

Drafftio– E-byst/ Cyfarfodydd, Adroddiad i'r Cyngor Llawn

Hysbysebu'r Ymgynghoriad Cyhoeddus drwy:

Cronfa Ddata Rhanddeiliaid y CDLl

E-byst

Gwefan

Y Wasg a'r Cyfryngau Cymdeithasol

Sesiynau galw heibio yn Swyddfeydd y Cyngor

Dogfennau Ymgynghori ar gael ar:

Gwefan CDLl Newydd

Copi caled o'r ddogfen ar gael yn y Ganolfan Ddinesig a'r Guildhall

CC terfynol ar gael ar:

Gwefan

Copi caled yn y Ganolfan Ddinesig a'r Guildhall

Bydd Agenda a Chofnodion y Cyngor Llawn yn cofnodi'r prosesau ymgysylltu gwleidyddol ar gyfer y CC drafft a therfynol.

Bydd y CC yn cynnwys adroddiad ymgynghori yn nodi'r sylwadau a dderbyniwyd, ymateb y Cyngor i'r sylwadau ac unrhyw newidiadau angenrheidiol i'r CC

Gwaith mewnol parhaus yn gwerthuso a diweddaru'r Fframwaith Arfarniad o Gynaliadwyedd a'r dystiolaeth sylfaenol a ddefnyddiwyd i lywio'r CDLl presennol.

Ystyriaeth barhaus i fabwysiadu Arfarniad o Gynaliadwyedd integredig gyda rhanddeiliaid mewnol ac allanol perthnasol

Cam 2 Cyfranogiad Cyn Adneuo (CDLl Rheoliad 14) (Cam Diffiniol)

BETH

Disgrifiad a Chamau Allweddol

PAM

Pwrpas yr Ymgysylltiad

PRYD

Amserlenni Bras

PWY

Pwy sy'n cyfrannu

SUT

Ymgysylltu

ADBORTH

Adrodd

SA/AAS/ISA

Ymgysylltu

Deall y cyd-destun a'r materion i fynd i'r afael â nhw yn y CDLl Newydd, casglu tystiolaeth a gwahoddiad i gyflwyno safleoedd i'w hystyried a datblygu gweledigaeth ac amcanion i arwain y gwaith o baratoi'r CDLl Newydd.

Adolygu a diweddaru'r sail dystiolaeth

Galwad am Safleoedd Ymgeisiol

Ymgysylltu â rhanddeiliaid i ddatblygu'r materion allweddol a ffurfio gweledigaeth ac amcanion trosfwaol i arwain y CDLl Newydd a datblygu opsiynau strategol

Paratoi Adroddiad Cwmpasu yr Arfarniad o Gynaliadwyedd a chynnal ymgynghoriad wedi'i dargedu â rhanddeiliaid allweddol

Paratoi Strategaeth a Ffefrir y CDLl Newydd yn nodi'r strategaeth gyffredinol a pholisïau strategol a safleoedd strategol allweddol

Paratoi'r Adroddiad SA Cychwynnol a'r Asesiad Sgrinio Rheoliadau Cynefinoedd

Cael cymeradwyaeth y Cyngor Llawn i'r Strategaeth a Ffefrir a dogfennau SA/HRA i fynd allan ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus statudol

I adeiladu'r sail dystiolaeth o faterion allweddol y bydd angen i'r CDLl Newydd eu hystyried.

I dderbyn gan yr holl randdeiliaid safleoedd posibl i'w datblygu neu eu diogelu.

I gael consensws gan randdeiliaid allweddol ar weledigaeth ac amcanion ar gyfer y CDLl Newydd a fydd yn llywio'r Strategaeth a Ffefrir

Yn parhau o fis Mehefin 2022

Bydd yr Alwad am Safleoedd Ymgeisiol ar agor am o leiaf chwe wythnos o fis Awst i fis Hydref 2023

Cyfnod ymgynghori statudol o 5 wythnos ar Adroddiad Cwmpasu yr Arfarniad o Gynaliadwyedd tua mis Awst 2023

Ymgysylltu â chyrff ymgynghori penodol a chyffredinol allweddol fel yr ystyrir yn briodol ar ddatblygu'r Weledigaeth a'r Amcanion a'r Amcanion a'r Opsiynau Strategol tua mis Medi 2023-Ionawr 2024.

Ymgysylltu anffurfiol parhaus ag adrannau mewnol allweddol/cyrff allanol i lywio gwaith drwy gydol 2023

Y Cyngor Llawn i gymeradwyo'r Strategaeth a Ffefrir a'r dogfennau ategol ym mis Mehefin 2024

Ymgysylltu wedi'i dargedu ag adrannau mewnol a chyrff allanol ac awdurdodau cyfagos wrth ddatblygu'r sail dystiolaeth.

Ymgynghori â Chyrff Ymgynghori Amgylcheddol ar Adroddiad Cwmpasu'r Arfarniad o Gynaliadwyedd

Bydd yr Alwad am Safleoedd Ymgeisiol yn agored i bob rhanddeiliad gan gynnwys adrannau mewnol, cyrff allanol, datblygwyr, tirfeddianwyr, y cyhoedd, grwpiau cymunedol i gyflwyno safleoedd i'w hystyried.

Ymgysylltu wedi'i dargedu ag adrannau mewnol a chyrff ymgynghori allanol a cyffredinol a phenodol penodol fel y'r ystyrir yn briodol

Swyddogion mewnol a Gweithgor y CDLIA os ystyrir ynbriodol.

Ymgysylltu ag Aelodau Etholedig drwy'r broses

Ymgysylltu wedi'i dargedu drwy:

E-byst

Teams a chyfarfodydd wyneb yn wyneb

Ymgysylltu ynghylch yr adroddiad cwmpasu SA drwy:

E-byst

Cyfarfodydd Teams fel y bo'n briodol

Rhoddir cyhoeddusrwydd eang i'r Alwad am Safleoedd Ymgeisiol ar gyfryngau cymdeithasol ac ar y wefan cyn y cam ffurfiol ar gyfer galw am safleoedd er mwyn caniatáu i bartïon ystyried a pharatoi tystiolaeth angenrheidiol a fydd yn allweddol i sicrhau bod blaenlwytho'n digwydd.

Rhoddir cyhoeddusrwydd i Gam yr Alwad am Safleoedd gan ddefnyddio'r canlynol fel y bo'n briodol:

E-byst

Sesiynau galw heibio gyda swyddogion trwy Teams neu gyfarfodydd wyneb yn wyneb

Cyfarfodydd rhithwir

Hysbysebu'r Ymgynghoriad Cyhoeddus drwy:

Cronfa Ddata Rhanddeiliaid y CDLl

E-byst

Gwefan

Y Wasg a'r Cyfryngau Cymdeithasol

Sesiynau galw heibio yn Swyddfeydd y Cyngor

Bydd y Cyngor yn cyhoeddi Canllawiau a Methodoleg Cyflwyno Safleoedd Ymgeisiol manwl i egluro'r broses dadansoddi a dethol safleoedd a ragwelir.

Ymgysylltu â chyrff ymgynghori penodol a chyffredinol drwy:

E-byst

Cyfarfodydd wyneb yn wyneb/digwyddiadau rhithwir fel y bo'n briodol

Bydd papurau cefndir a thystiolaeth yn cael eu lanlwytho i dudalennau gwe'r CDLl Newydd pan fyddant ar gael.

Yn dilyn yr Alwad am Safleoedd Ymgeisiol bydd y Cyngor yn cynhyrchu Cofrestr o Safleoedd Ymgeisiol a fydd ar gael ar wefan y CDLl Newydd ac ar ffurf copi caled yn y Ganolfan Ddinesig.

Bydd Agenda a Chofnodion y Cyngor Llawn yn cofnodi'r prosesau ymgysylltu gwleidyddol ar gyfer y CC drafft a therfynol.

Gwaith mewnol parhaus yn gwerthuso a diweddaru'r Fframwaith Arfarniad o Gynaliadwyedd a'r dystiolaeth sylfaenol a ddefnyddiwyd i lywio'r CDLl presennol.

Ymgynghoriad Statudol ar yr Adroddiad Cwmpasu

Ymgysylltu'n anffurfiol â CNC ynghylch yr Adroddiad Sgrinio HRA

Cam 3 Ymgynghoriad Cyn Adneuo (CDLl Rheoliad 15) (Cam Diffiniol)

BETH

Disgrifiad a Chamau Allweddol

PAM

Pwrpas yr Ymgysylltiad

PRYD

Amserlenni Bras

PWY

Pwy sy'n cyfrannu

SUT

Ymgysylltu

ADBORTH

Adrodd

SA/AAS/ISA

Ymgysylltu

Ymgynghoriad Cyhoeddus ar:

Strategaeth a Ffefrir y CDLl Newydd

Adroddiad Arfarniad o Gynaliadwyedd Cychwynnol

Asesiad Sgrinio HRA

Tystiolaeth Gefndirol ac unrhyw bapurau pwnc perthnasol

Er mwyn cael mewnbwn eang i Strategaeth a Ffefrir y CDLl Drafft, er mwyn galluogi rhanddeiliaid a'r cyhoedd i gyflwyno eu barn ar y strategaeth sy'n dod i'r amlwg, polisïau allweddol a safleoedd strategol a dogfennau cysylltiedig

Ymgynghori â'r Cyhoedd yn ystod cyfnod statudol o chwe wythnos rhwng Gorffennaf ac Awst 2024

Ymgynghori â'r holl randdeiliaid sydd â diddordeb yn y CDLl Newydd:

Ymgynghoriad cyhoeddus i'w hysbysebu'n eang:

Negeseuon e-bost at yr holl ymgyngoreion ar gronfa ddata'r CDLl

Sianeli cyfryngau cymdeithasol a gwefan y Cyngor

Canolfannau Cyswllt y Cyngor

Bydd swyddogion yn cynnal, fel yr ystyrir yn briodol:

Sesiynau galw heibio

Arddangosfeydd

Ymgysylltu â Chynghorau Cymuned a grwpiau allweddol a nodwyd

Dogfennau Ymgynghori a ffurflenni sylwadau ar gael ar:

Gwefan CDLl Newydd

Copïau caled o'r Strategaeth a Ffefrir ar gael yn

y Ganolfan Ddinesig a'r Guildhall

Copi o'r Strategaeth a Ffefrir a ffurflenni cynrychiolaeth lle bo'n bosibl ym mhob un o'r 17 llyfrgell yn Abertawe

Bydd y Cyngor yn ystyried gweithredu system ryngweithiol ar y we i gofnodi sylwadau yn electronig

Bydd y Cyngor yn darparu hysbysiad a datganiad o faterion cyn-adneuo yn ystod y cam hwn yn unol â'r Rheoliadau

Bydd sylwadau ac ymatebion iddynt yn cael eu hadrodd i'r Aelodau Etholedig

Bydd yr holl sylwadau ac ymatebion, ynghyd ag unrhyw newidiadau i'r Cynllun Cyn-adneuo ar gael i'r cyhoedd fel rhan o'r Adroddiad Ymgynghori Cychwynnol sy'n cyd-fynd â'r Cynllun Adneuo. Bydd papurau cefndir a thystiolaeth yn cael eu lanlwytho i dudalennau gwe'r CDLl Newydd pan fyddant ar gael.

Bydd y Cyngor yn dilyn arfer gorau ac yn ymgynghori ar yr Adroddiad SA Cychwynnol ac Asesiad Sgrinio HRA ochr yn ochr â'r Strategaeth a Ffefrir er y bydd hyn yn cael ei dargedu'n benodol at y Cyrff Ymgynghori Amgylcheddol.

Cam 4 Ymgynghoriad Cynigion Adneuo (CDLl Rheoliad 17) (Cam Diffiniol)

BETH

Disgrifiad a Chamau Allweddol

PAM

Pwrpas yr Ymgysylltiad

PRYD

Amserlenni Bras

PWY

Pwy sy'n cyfrannu

SUT

Ymgysylltu

ADBORTH

Adrodd

SA/AAS/ISA

Ymgysylltu

Cael Cymeradwyaeth y Cyngor ar y Cynllun Adneuo ac Ymgynghoriad Cyhoeddus ar:

Cynllun Adneuo CDLl Newydd

Adroddiad yr Arfarniad o Gynaliadwyedd (ISA)

HRA

Asesiad o Safleoedd Ymgeisiol

Cyhoeddi dogfennau cefndir ategol (tystiolaeth)

Cyhoeddi Adroddiad Ymgynghori Cychwynnol

I sicrhau mewnbwn eang i'r Cynllun Adneuo er mwyn caniatáu i randdeiliaid a'r cyhoedd gyflwyno eu barn ar y Cynllun Adneuo, y polisïau allweddol i arwain datblygiad a defnydd tir a'r dyraniadau datblygu arfaethedig ar gyfer gwahanol ddefnyddiau ac ardaloedd gwarchod.

Y Cyngor Llawn i gymeradwyo'r Cynllun Adneuo a'r dogfennau ategol ym mis Mai 2025.

Ymgynghoriad Cyhoeddus i'w gynnal am gyfnod statudol o chwe wythnos yn ystod Mehefin i Orffennaf 2025 ar y Cynllun Adneuo a'r Adroddiad SA rhwng Mehefin a Gorffennaf 2025

Ymgynghori â'r holl randdeiliaid sydd â diddordeb yn y CDLl Newydd:

Ymgynghoriad cyhoeddus i'w hysbysebu'n eang:

Negeseuon e-bost at yr holl ymgyngoreion ar gronfa ddata'r CDLl

Sianeli cyfryngau cymdeithasol a gwefan y Cyngor

Canolfannau Cyswllt y Cyngor

Bydd swyddogion yn cynnal, fel yr ystyrir yn briodol:

Sesiynau galw heibio

Arddangosfeydd

Ymgysylltu â Chynghorau Cymuned a grwpiau allweddol a nodwyd

Dogfennau Ymgynghori a ffurflenni sylwadau ar gael ar:

Gwefan CDLl Newydd

Copïau caled o'r Strategaeth a Ffefrir ar gael yn

y Ganolfan Ddinesig a'r Guildhall

Copi o'r Strategaeth a Ffefrir a ffurflenni cynrychiolaeth lle bo'n bosibl ym mhob un o'r 17 llyfrgell yn Abertawe

Bydd y Cyngor yn ystyried gweithredu system ryngweithiol ar y we i gofnodi sylwadau yn electronig

Bydd y Cyngor yn darparu hysbysiad a datganiad o faterion cyn-adneuo yn ystod y cam hwn yn unol â'r Rheoliadau

Bydd y Cyngor yn cofnodi'r holl sylwadau a wneir yn briodol ac yn sicrhau bod copi ar gael cyn gynted ag sy'n ymarferol bosibl i'w archwilio yn y Ganolfan Ddinesig, Abertawe.

Bydd Gwefan y CDLl Newydd yn rhoi manylion y sylwadau a dderbyniwyd cyn gynted ag sy'n ymarferol bosibl.

Bydd y Gofrestr Safleoedd Ymgeisiol yn cael ei diweddaru gyda Safleoedd Newydd/Amgen a gyflwynir

Bydd sylwadau ac ymatebion iddynt yn cael eu hadrodd i'r Aelodau Etholedig

Bydd yr holl sylwadau ac ymatebion, ynghyd ag unrhyw newidiadau i'r Cynllun Cyn-adneuo ar gael i'r cyhoedd fel rhan o'r Adroddiad Ymgynghori Cychwynnol sy'n cyd-fynd â'r Cynllun Adneuo. Bydd papurau cefndir a thystiolaeth yn cael eu lanlwytho i dudalennau gwe'r CDLl Newydd pan fyddant ar gael.

Bydd y Cyngor yn dilyn arfer gorau ac yn ymgynghori ar yr Adroddiad SA Cychwynnol ac Asesiad Sgrinio HRA ochr yn ochr â'r Strategaeth a Ffefrir er y bydd hyn yn cael ei dargedu'n benodol at y Cyrff Ymgynghori Amgylcheddol.

Cam 5 Cyflwyno'r CDLl Newydd a dogfennau cysylltiedig i Lywodraeth Cymru a Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru i'w Harchwilio'n Annibynnol (Rheoliad 22) (Cam Dangosol)

BETH

Disgrifiad a Chamau Allweddol

PAM

Pwrpas yr Ymgysylltiad

PRYD

Amserlenni Bras

PWY

Pwy sy'n cyfrannu

SUT

Ymgysylltu

ADBORTH

Adrodd

SA/AAS/ISA

Ymgysylltu

Mae'r Cyngor yn cyflwyno'r CDLl Newydd a'r holl dystiolaeth ategol a dogfennau cefndir i LlC a PEDW i'w Harchwilio'n Annibynnol.

Mae'r dogfennau a gyflwynir yn cynnwys:

Cynllun Adneuo

SA (ISA), HRA

CC (gan gynnwys CIS)

Adroddiad Ymgynghori

Adroddiad Adolygu

Cofrestr Safleoedd Ymgeisiol

Asesiad o Safleoedd Ymgeisiol

Copi o sylwadau a wnaed yn briodol a dderbyniwyd yn y cyfnod Adneuo

Dogfennau a thystiolaeth ategol.

Bydd tîm y CDLl yn hysbysu'r holl randdeiliaid bod y CDLl Newydd wedi'i gyflwyno i'w Archwilio

Amherthnasol – Mae angen cyflwyno'r CDLl Newydd yn unol â Rheoliad 22 y CDLl

Disgwylir cyflwyno'r CDLl Newydd tua mis Rhagfyr 2025

Bydd yr holl randdeiliaid (gan gynnwys y sawl sy'n gwneud sylwadau) yn cael eu hysbysu.

Bydd rhanddeiliaid yn cael eu hysbysu trwy:

E-bost

Gwefan

Llythyrau fel y bo'n briodol

Anfonir copïau o ddogfennau at Lywodraeth Cymru a PEDW yn unol â'r Rheoliadau

Bydd y Cyngor yn cyhoeddi datganiad ar ei wefan bod y CDLl wedi'i gyflwyno i'w Archwilio a bydd ar gael i'w archwilio yn ystod oriau swyddfa arferol yn y Ganolfan Ddinesig, Abertawe.

Bydd y CDLl Newydd a'r dogfennau a gyflwynir yn cael eu cyhoeddi ar-lein.

Bydd copi caled o'r dogfennau ar gael i'w gweld yng Nghanolfan Ddinesig Abertawe

Bydd y Cyngor yn cyhoeddi unrhyw ohebiaeth a dderbynnir oddi wrth LlC a'r Arolygydd ar ei wefan.

Bydd Swyddog Rhaglen wedi'i benodi a fydd yn sefydlu gwefan Archwilio a bydd yn gweithredu fel rhyngwyneb rhwng yr ACLl a'r Arolygydd Cynllunio.

Bydd adroddiad yr Arfarniad o Gynaliadwyedd (ISA) yn cael ei gyflwyno yn dangos sut mae'r prosesau asesu wedi llywio cynnwys y Cynllun

Cam 6 Archwilio Cyflwyno'r CDLl Newydd a dogfennau cysylltiedig i Lywodraeth Cymru a Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru i'w Harchwilio'n Annibynnol (Rheoliad 22) (Cam Dangosol)

BETH

Disgrifiad a Chamau Allweddol

PAM

Pwrpas yr Ymgysylltiad

PRYD

Amserlenni Bras

PWY

Pwy sy'n cyfrannu

SUT

Ymgysylltu

ADBORTH

Adrodd

SA/AAS/ISA

Ymgysylltu

Hysbysiad o Archwiliad Annibynnol.

Rhoi gwybod am yr Arolygydd penodedig i gynnal yr Archwiliad a'r amserlen ar gyfer Cyfarfod Cyn Wrandawiad

Cyhoeddi manylion y Sesiynau Gwrandawiadau a hysbysu'r holl bartïon â diddordeb gan nodi dyddiadau a lleoliad

Nodi meysydd Tir Cyffredin gyda gwrthwynebwyr i ganolbwyntio arnynt yn y sesiynau gwrandawiadau

Paratoi Newidiadau Materion sy'n Codi (MACau) fel y bo'n briodol

Ymgynghori ar MACau

Cynnal Archwiliad Annibynnol o'r CDLl Newydd yn unol â Rheoliadau'r CDLl a chaniatáu mewnbwn rhanddeiliaid i'r sesiynau gwrandawiadau fel sy'n ofynnol gan yr Arolygydd

Mae'n rhaid derbyn hysbysiad o leiaf chwe wythnos cyn dechrau'r sesiwn gwrandawiadau cyntaf.

Cyfarfod Cyn Wrandawiad amcangyfrifedig Ionawr / Chwefror 2026

Bydd Gwrandawiadau Amcangyfrifedig yn cychwyn tua mis Chwefror 2026 a byddant yn rhedeg tan fis Ebrill 2026.

Pob parti â diddordeb (gan gynnwys y sawl sy'n gwneud sylwadau). Bydd cymryd rhan yn y sesiynau gwrandawiadau ar gais yr Arolygydd penodedig.

Newidiadau Materion sy'n Codi – Bydd yr holl randdeiliaid yn gallu cyfrannu at ymgynghoriad ar unrhyw MAC.

Hysbysiad ffurfiol yn cael ei roi drwy e-bost i unrhyw berson sydd wedi gwneud sylw (ac heb ei dynnu'nol)

Bydd yr archwiliad cyhoeddus yn cael ei reoli gan yr Arolygydd a'r Swyddog Rhaglen penodedig.

Er y bydd yr Arolygydd yn gofyn am gyfranogiad gan randdeiliaid penodol, bydd yr Archwiliad yn agored i unrhyw aelod o'r cyhoedd i fod yn bresennol a gweld y trafodion.

Bydd Llyfrgell yr Archwiliad ar gael i'w gweld ar wefan y Cyngor ond bydd hefyd ar gael i'w gweld yn lleoliad yr Archwiliad.

Bydd natur a ffurf y sesiynau gwrandawiadau yn cael eu pennu gan yr Arolygydd a byddant yn cael eu cyhoeddi ar y wefan. Mae'n debygol y bydd hyn ar ffurf trafodaethau bord gron, gwrandawiadau ffurfiol (os gofynnir amdanynt a'u cytuno gan yr Arolgydd) a chyflwyniadau ysgrifenedig.

Bydd Newidiadau Materion sy'n Codi yn cael eu hysbysebu'n eang:

E-byst at yr holl randdeiliaid ar y gronfa ddata

Hysbysebu ar y wefan

Y Wasg a'r Cyfryngau Cymdeithasol

Dogfennau Ymgynghori a ffurflenni sylwadau ar gael ar:

Gwefan CDLl Newydd

Copi caled yn y Ganolfan Ddinesig a

17 llyfrgell Abertawe

Bydd y Swyddog Rhaglen yn rheoli gwefan yr Archwiliad a fydd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i bartïon a bydd yn lanlwytho agendâu a datganiadau ar gyfer sesiynau gwrandawiadau. Bydd yr holl ohebiaeth rhwng yr Arolygydd a'r Cyngor yn cael ei lanlwytho i'r wefan.

Bydd y Cyngor yn ymgynghori â rhanddeiliaid a'r cyhoedd ar unrhyw newidiadau ôl-adneuo arfaethedig (MACau).

Gall sylwadau sy'n ymwneud â'r SA (ISA) a wnaed yn briodol ymddangos yn yr Archwiliad.

Bydd unrhyw newidiadau a wneir ar ôl adneuo (MACau) yn ystod yr Archwiliad neu'r rhai sy'n ofynnol gan yr Arolygydd yn destun asesiad a byddant ar gael ar gyfer ymgynghoriad.

Cam 7 Cyhoeddi Adroddiad yr Arolygydd, (Rheoliad 24) (Cam Dangosol)

BETH

Disgrifiad a Chamau Allweddol

PAM

Pwrpas yr Ymgysylltiad

PRYD

Amserlenni Bras

PWY

Pwy sy'n cyfrannu

SUT

Ymgysylltu

ADBORTH

Adrodd

SA/AAS/ISA

Ymgysylltu

Mae'r Arolygydd yn cyflwyno ei adroddiad i'r Cyngor yn manylu ar ganlyniad yr Archwiliad Annibynnol

Yn dilyn gwirio'r ffeithiau gan y Cyngor cyhoeddir Adroddiad yr Arolygydd o fewn 8 wythnos o'i dderbyn

Lle mae'r Arolygydd wedi argymell newidiadau i'r CDLl Newydd mae'r rhain yn rhwymo'r Cyngor a rhaid diweddaru'r CDLl Newydd i adlewyrchu'r newidiadau hyn.

Hysbysir pob parti pan fydd Adroddiad yr Arolygydd wedi'i dderbyn a'i gyhoeddi wedi hynny.

Amh.

Disgwylir Adroddiad yr Arolygydd erbyn Awst 2026.

Bydd hwn yn cael ei gyhoeddi gan y Cyngor ar neu cyn mabwysiadu'r CDLl.

Bydd yr holl randdeiliaid (gan gynnwys y sawl sy'n gwneud sylwadau) yn cael eu hysbysu.

Bydd Adroddiad yr Arolygydd yn cael ei gyhoeddi ar y wefan a bydd ar gael i'w weld ar ffurf copi caled yn y Ganolfan Ddinesig, Abertawe a lle bo modd, ym mhob un o'r 17 llyfrgell Abertawe.

Bydd Adroddiad yr Arolygydd yn nodi eu canfyddiadau o ran cadernid y CDLl Newydd gan gynnwys unrhyw newidiadau a argymhellir a'r rhesymau drostynt.

Bydd Adroddiad yr Arolygydd yn nodi eu canfyddiadau ar yr Arfarniad o Gynaliadwyedd (ISA).

Cam 8 Mabwysiadu (Rheoliad 25) (Cam Dangosol)

BETH

Disgrifiad a Chamau Allweddol

PAM

Pwrpas yr Ymgysylltiad

PRYD

Amserlenni Bras

PWY

Pwy sy'n cyfrannu

SUT

Ymgysylltu

ADBORTH

Adrodd

SA/AAS/ISA

Ymgysylltu

Mae'n rhaid cyflwyno'r CDLl Newydd i'r Cyngor i'w gymeradwyo o fewn 8 wythnos i dderbyn Adroddiad yr Arolygydd. Mae'n rhaid i'r Cyngor hefyd roi cyhoeddusrwydd eang i'r ffaith ei fod wedi'i fabwysiadu.

Ar ôl ei fabwysiadu, bydd y Cyngor yn sicrhau bod copïau o'r CDLl Newydd, yr Adroddiad Arfarniad o Gynaliadwyedd a'r

Datganiad Mabwysiadu ar gael

Amh.

Bydd y CDLl Newydd yn cael ei fabwysiadu 8 wythnos ar ôl derbyn Adroddiad yr Arolygydd. Disgwylir i hyn fod tua mis Medi 2026.

Mae'n ofynnol i'r Datganiad Ôl-fabwysiadu (o dan y Gyfarwyddeb AAS) gael ei gynhyrchu o fewn 6 wythnos i'r mabwysiadu yn unol ag arfer da

Bydd y Cyngor Llawn yn gwneud y penderfyniad i fabwysiadu'r CDLl Newydd yn ffurfiol.

Bydd yr holl randdeiliaid (gan gynnwys y sawl sy'n gwneud sylwadau) yn cael eu hysbysu.

Bydd mabwysiadu'r CDLl yn cael ei hysbysebu'n eang drwy E-bost, Gwefan

Y Wasg a'r Cyfryngau Cymdeithasol.

Bydd y CDLl Newydd mabwysiedig, datganiad mabwysiadu, Adroddiad yr Arfarniad o Gynaliadwyedd ar gael i'w harchwilio yng Nghanolfan Ddinesig Abertawe a lle bo modd, yn mhob un o'r 17 o llyfrgell Abertawe.

Anfonir y datganiad mabwysiadu at unrhyw un sy'n gofyn am gael gwybod am fabwysiadu'r CDLl.

Bydd 4 copi o'r CDLl a'r datganiad mabwysiadu yn cael eu hanfon at Lywodraeth Cymru

Bydd agendâu a chofnodion cyfarfodydd y Cyngor yn cofnodi'r broses wleidyddol.

Bydd y CDLl Newydd mabwysiedig a dogfennau cysylltiedig yn cael eu cyhoeddi ar y wefan.

Ar ôl eu mabwysiadu, bydd y Cyngor yn cyhoeddi'r Adroddiadau Monitro Blynyddol statudol erbyn 31 Hydref (oni bai y byddai llai na 12 mis wedi mynd heibio ers mabwysiadu) a fydd yn nodi a yw amcanion yr Arfarniad o Gynaliadwyedd yn cael eu cyflawni.

Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig