Cytundeb Cyflawni (Drafft) Mawrth 2023

Daeth i ben ar 20 Ebrill 2023
Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.

Atodiad 2: Asesu Risg

RISG

EFFAITH

LLINIARU

1

Colli/newid staff yn arwain at arbenigedd mewnol annigonol a/neu gynyddu llwyth gwaith unigol

Colli'r capasiti i gwblhau camau o broses y CDLl yn brydlon. Anallu i ddarparu adnoddau ar gyfer gwahanol dasgau felly'n peryglu eu hansawdd, neu yn yr achos gwaethaf, methu â chyflawni neu gwblhau'r dasg

  • Cynnal aelodaeth llawn o'r Tîm Polisi Cynllunio, a'i ategu drwy adleoli/secondiad pan fo angen.
  • Sicrhau bod y CDLl yn cael y flaenoriaeth uchaf wrth reoli llwyth gwaith
  • Defnyddio ymgynghorwyr allanol

2

Adnoddau ariannol annigonol

Anallu i ariannu tasgau amrywiol sy'n gofyn am arbenigedd allanol

  • Cynnwys hyblygrwydd ar gyfer costau nas rhagwelwyd
  • Caniatáu i gyllideb y CDLl gael ei dwyn ymlaen yn flynyddol os bydd tanwariant
  • Sicrhau bod cost Archwiliad Annibynnol ac Adroddiad yr Arolygydd yn cael ei gynnwys yng nghynllunio ariannol tymor canolig y Cyngor

3

Deddfwriaeth newydd gyda goblygiadau polisi a dosbarthiad gwael o'r wybodaeth hon

Llithriant yn yr amserlen oherwydd:

  • Angen adolygu/diwygio'r sail dystiolaeth a pholisïau.
  • Ailddrafftio Polisïau/Cynllun yn hwyr
  • Monitro deddfwriaeth a chanllawiau sy'n dod i'r amlwg yn ofalus i sicrhau'r ymateb cynharaf posibl wrth baratoi CDLl i bolisïau/tasgau newydd, ac ati.
  • Adolygu gweithdrefnau ymgynghori gyda LlCC a chyrff eraill i sicrhau yr ymgynghorir yn uniongyrchol â'r Tîm Polisi Cynllunio

4

Gwrthwynebiadau neu wybodaeth hwyr sylweddol gan randdeiliaid allweddol

Llithriant yn yr amserlen oherwydd:

  • Angen ailddrafftio polisïau/Cynllun i gynnwys yr wybodaeth ychwanegol
  • Gwella gweithdrefnau cysylltu â rhanddeiliaid allweddol a chysoni amserlenni prosiectau lle bynnag y bo modd
  • Adnabod yn gynnar unrhyw anhawster (o ran amser) wrth ddarparu ymateb
  • Caniatáu hyblygrwydd o fewn yr amserlen ar gyfer cyflwyno gwybodaeth yn hwyr

5

Anhawster wrth gael gwybodaeth/ arbenigedd angenrheidiol i hysbysu'r CDLl

Y CDLl yn methu'r prawf cadernid oherwydd tystiolaeth annigonol, neu achosion o lithriant yn yr amserlen oherwydd bod amser neu adnoddau'n cael eu dargyfeirio i gael gwybodaeth

  • Diogelu'r adnoddau angenrheidiol o ran amser a chyllid i sicrhau'r wybodaeth angenrheidiol a chynnwys digon o hyblygrwydd o fewn yr amserlen i wneud hyn

6

Oedi allanol (Arolygiaeth Gynllunio, ymatebion ymgyngoreion, argraffwyr, cyfieithwyr)

Llithriant yn yr amserlen

  • Nodi terfynau amser ymateb yn glir a sefydlu protocolau atgoffa
  • Cysylltu dyddiadau cau â chylchoedd paratoi adroddiadau'r Cabinet/Cyngor
  • Rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i LlCC
  • Adeiladu hyblygrwydd yn yr amserlen o amgylch etholiadau Llywodraeth Leol

7

Her gyfreithiol

Dileu'r CDLl mabwysiedig, a llwyth gwaith ychwanegol

  • Gwirio'n barhaus gyda'r Gwasanaethau Cyfreithiol a gydymffurfir â'r holl Reoliadau, Deddfau a Chanllawiau perthnasol
  • Parhau â gwaith Braenaru CDLl Rhanbarthol i rannu arfer gorau gydag ACLlau eraill

8

Cylchoedd adrodd afrealistig a Materion Gwleidyddol yn ehangach, gan gynnwys Etholiadau'r Cyngor

Llithriant yn yr amserlen

  • Sicrhau y gellir galw cyfarfodydd arbennig i symud materion CDLl ymlaen
  • Sefydlu Grŵp Cynghori o Aelodau i ymdrin â chyflawni'r CDLl
  • Hyfforddiant cynnar i aelodau ar ôl etholiadau

9

Yr amserlen yn rhy uchelgeisiol oherwydd llwyth gwaith mwy na'r disgwyl yn ymwneud â dyletswyddau'r Cyngor a gofynion y CJC, gan gynnwys cynhyrchu Cynllun Datblygu Strategol, ynghyd ag oedi o ran tystiolaeth/tystiolaeth sy'n dod i'r amlwg ar adegau heb eu cysoni â'r CC.

Llithriant yn yr amserlen

Goblygiadau o ran Adnoddau

  • Ystyried adnoddau ychwanegol
  • Parhau i gysylltu'n agos â Llywodraeth Cymru a'r CJC
  • Sicrhau bod digon o adnoddau ar gael a chefnogaeth gorfforaethol i'r broses SDP a'r amserlen o'r cychwyn cyntaf yn cyd-fynd â pharatoi'r CDLl Newydd.
  • Cynllunio Anghenion o ran Tystiolaeth a Chynnal/Comisiynu Casglu Tystiolaeth mewn da bryd
  • Paratoi'r Cynllun i fod yn addasadwy ac yn ymatebol/ hyblyg i newid lle bo modd

10

Oedi yn sgil cyfieithu i'r Gymraeg

Llithriant yn yr amserlen

  • Ystyried adnoddau ychwanegol
  • Gweithio'n agos gydag adrannau perthnasol

11

Diffyg consensws ar draws y sefydliad a/neu ddiffyg cefnogaeth gan swyddogion/ adrannau eraill wrth gynhyrchu'r sail dystiolaeth

Llithriant yn yr amserlen

  • Sicrhau cyswllt agos ag Aelodau a Swyddogion allweddol a'u cynnwys yn gynnar

12

Adolygiad Cynnar o'r CDLl Newydd neu'r CDLl Newydd yn cael ei atal cyn ei fabwysiadu oherwydd y gofyniad i alinio â Chynllun Datblygu Strategol

Llithriant yn yr amserlen

  • Sicrhau cyfranogiad yn natblygiad gwaith rhanbarthol. Cyswllt parhaus â Llywodraeth Cymru.

13

'Dyddiad marw' y CDLl presennol yn agosau

Goblygiadau polisi

  • Sicrhau bod CDLl Newydd yn cael ei fabwysiadu cyn neu'n fuan ar ôl y 'dyddiad marw'
  • Datblygu strategaethau lliniaru ar gyfer cyfnod heb gynllun
  • Negodi gyda LlC i archwilio deddfwriaeth ddiwygio ynghylch data marw.

14

Oedi cyn cyflwyno ceisiadau mawr nes bod y CDLl Newydd wedi'i fabwysiadu

Goblygiadau polisi

(e.e. darparu tai/cyflogaeth)

  • Sicrhau bod y CDLl Newydd yn cael ei fabwysiadu cyn gynted â phosibl er mwyn lleihau goblygiadau sy'n gysylltiedig ag oedi cyn gwneud ceisiadau mawr.

15

Goblygiadau ISA/HRA ar strategaeth y cynllun

Llithriant yn yr amserlen

  • Sicrhau bod y broses wedi'i hintegreiddio'n llawn â pharatoi'r CDLl

Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig